Awdurdodi ceisiadau am daliadau yn erbyn pensiynau bywyd a chontractau buddsoddi

URN: FSPLPI04
Sectorau Busnes (Suites): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag awdurdodi ceisiadau am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Mae'n ymwneud â sicrhau bod dogfennaeth sy'n ymwneud â cheisiadau am daliadau o dan gontract yn cael eu cyflwyno'n gywir a bod taliadau dilynol yn gywir. Rydych chi'n sicrhau bod y rhesymau dros wneud y cais am daliad wedi cael eu nodi a'u cofnodi'n gywir, bod yr holl ddogfennau a'r cyfrifiadau'n gywir, a bod gweithdrefnau eich sefydliad wedi'u cyflawni'n llwyr cyn cyflwyno'r dogfennau. Byddwch yn sicrhau bod yr holl ddogfennaeth a'r cyfrifiadau'n gyflawn ac yn gywir, a bod y gweithdrefnau o ran eich ffurflenni wedi cael eu cyflawni cyn gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer y taliad. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.

Efallai bydd y safon hon
yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall,
neu ar eu rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod y rheswm dros y cais am daliad wedi cael ei nodi a'i gofnodi'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Nodi unrhyw elfennau anghywir neu sydd wedi'u hepgor yn yr wybodaeth, y dogfennau neu'r cyfrifiadau, a'u cywiro pan fo angen
  3. Cyfeirio ceisiadau am daliadau nad oes gennych awdurdod i ddelio gyda nhw at y bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Nodi ceisiadau am daliadau lle na ddilynwyd polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Awdurdodi setlo'r cais am daliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  4. Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
  5. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cheisiadau am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
  6. Sut mae delio gyda dogfennau contract coll, os bydd angen
  7. Yr yswiriant a ddarperir gan gynnyrch cyfredol ac anghyfredol eich sefydliad sy'n berthnasol i'ch rôl
  8. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
  9. Yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol i brosesu ceisiadau cymhleth am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
  10. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
  11. Rolau a swyddogaethau'r partïon eraill sy'n ymwneud â cheisiadau am daliadau
  12. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
  13. Sut mae adnabod a delio gyda thwyll neu dwyll posibl mewn ceisiadau am daliadau
  14. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl
  2. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
  3. Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPLPI04

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Swyddfa bywyd; tansgrifennu; busnes newydd; contract; dogfennaeth ariannol; cynnyrch; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; taliadau; gwasanaeth cwsmeriaid