Tansgrifennu addasiadau uniongyrchol i gontractau bywyd, pensiynau a buddsoddi

URN: FSPLPI02
Sectorau Busnes (Suites): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â thansgrifennu addasiadau uniongyrchol i gontractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Rhaid i'ch gwaith ymwneud â delio gyda cheisiadau gan gleientiaid am addasiadau uniongyrchol i gontractau presennol. Pan fyddwch chi'n derbyn cais am addasiad, mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y cleient yn gyflawn ac yn gywir. Byddwch yn gofyn am unrhyw wybodaeth bellach y gallai fod arnoch ei hangen, ac yn penderfynu a yw'r addasiad yn dderbyniol. Gall fod angen hysbysu unrhyw bartïon â diddordeb am y cais i newid. Os yw'r addasiad a gynigiwyd yn dderbyniol, byddwch yn newid ffeil cofnodion y cleient. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.

Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Delio gyda cheisiadau am addasiadau uniongyrchol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Gwirio bod gennych chi fanylion digonol am unrhyw addasiadau i'ch galluogi i symud ymlaen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Ceisio eglurhad gan gleientiaid ynghylch gwybodaeth sy'n aneglur neu'n anghyflawn
  4. Penderfynu a ellir derbyn ceisiadau am addasiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Cymhwyso meini prawf tansgrifennu, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cyfeirio unrhyw gais sydd y tu allan i'ch awdurdod at y bobl berthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Hysbysu cleientiaid ynghylch y telerau a'r amodau a fydd yn berthnasol os yw'r addasiad yn dderbyniol
  8. Cadw cofnodion cyflawn wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  4. Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
  5. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi ac addasu gwybodaeth
  6. Yr yswiriant sy'n cael ei ddarparu gan y polisïau rydych chi'n delio gyda nhw, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol
  7. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chleientiaid
  8. Yr wybodaeth neu'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i dansgrifennu addasiadau i gontractau presennol
  9. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
  10. Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu gan ddefnyddio systemau wedi'u hawtomeiddio
  11. Y camau sy'n ofynnol os nad yw addasiad yn bodloni'r meini prawf derbyn
  12. Systemau a gweithdrefnau ar gyfer cyrchu ac addasu gwybodaeth
  13. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  2. Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPLPI02

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Swyddfa bywyd; busnes newydd; contract; dogfennaeth; cynnyrch ariannol; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; gwasanaeth i gleientiaid