Prosesu camau gweithredu corfforaethol ar ran buddsoddwyr
URN: FSPIO11
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu camau gweithredu corfforaethol ar ran buddsoddwyr. Mae'n cwmpasu asesu eu gwerth posibl a'u heffaith ar ddaliadau'r buddsoddwr, a threfnu bod buddsoddwyr yn derbyn gwybodaeth briodol. Mae'r safon hefyd yn gofyn bod yr unigolyn yn sicrhau cyfarwyddiadau gan fuddsoddwyr ac yn eu rhoi ar waith. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi ac ymchwilio i gamau gweithredu corfforaethol, gan ddefnyddio gwybodaeth berthnasol am y farchnad
- Nodi ac asesu effaith camau gweithredu corfforaethol ar ddaliadau a gwerthoedd
- Trefnu bod buddsoddwyr yn derbyn gwybodaeth glir ynghylch camau gweithredu corfforaethol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro cynnydd camau gweithredu corfforaethol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fuddsoddwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio cyfarwyddiadau gan fuddsoddwyr mewn perthynas â'r wybodaeth a ddarparwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu bod cyfarwyddiadau'n cael eu dilyn yn unol â gofynion y buddsoddwr
- Nodi achosion gwirioneddol neu bosibl o ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau, ac adrodd amdanynt i'r awdurdod perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith rheoliadol ar gyfer prosesu camau gweithredu corfforaethol ac effaith hynny ar eich rôl gwaith chithau
- Strwythur y farchnad fuddsoddi, gan gynnwys rôl eich sefydliad eich hun, a phartïon a sefydliadau allanol o ran prosesu camau gweithredu corfforaethol
- Math ac effaith camau gweithredu corfforaethol ar asedau buddsoddwyr a'ch rôl eich hun wrth werthuso effaith camau gweithredu ar asedau
- Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer prosesu cyfarwyddiadau buddsoddwyr, gan gynnwys y gweithdrefnau awdurdodi a ffyrdd o ddilysu cyfarwyddiadau
- Lefel eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb personol am ddelio gyda buddsoddwyr, cysylltiadau allweddol a chydweithwyr
- Y cysylltiadau allweddol yn y sefydliadau partner
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
- Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPIO11
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr