Goruchwylio systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi

URN: FSPIO08
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio systemau a phrosesau sy'n galluogi gweithrediadau buddsoddi i gael eu cynnal yn effeithlon, yn effeithiol a chan wneud elw. Mae cydymffurfio'n agwedd bwysig ar berfformiad. Yn yr achos hwn, mae disgwyl i'r goruchwyliwr sicrhau bod y systemau'n hwyluso gweithrediadau sy'n cydymffurfio. Mae datrys problemau hefyd yn bwysig wrth gyflawni'r safon hon, gan fod disgwyl i'r goruchwyliwr ymchwilio i broblemau a'u datrys mewn perthynas â systemau a phrosesau ar gyfer gweithrediadau buddsoddi. Mae disgwyl hefyd i'r goruchwyliwr argymell newidiadau a gwelliannau fel rhan o brosesau adolygu parhaus, a lle profwyd problemau ac anawsterau wrth weithredu systemau a phrosesau a'u rhoi ar waith. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu gwybodaeth ynghylch perthnasedd ac effeithlonrwydd systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi gan yr holl bobl berthnasol
  2. Monitro systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi i sicrhau eu bod yn dal i fedru hwyluso allbynnau gwaith effeithiol a chynnal boddhad buddsoddwyr
  3. Asesu dealltwriaeth a chymhwysedd defnyddwyr y system gweithrediadau buddsoddi, a rhoi datblygiad ar waith lle bo angen i unioni unrhyw ddiffygion
  4. Nodi a datrys meysydd trafferthus sy'n ymwneud â systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Rhybuddio unigolion a thimau am feysydd trafferthus wrth ddefnyddio systemau gweithrediadau buddsoddi penodol
  6. Gwirio bod manylion problemau sy'n ymwneud â systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi yn gywir ac yn cael eu trosglwyddo'n brydlon i'r bobl briodol
  7. Gwerthuso systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi amgen posibl yn erbyn y systemau a'r prosesau a ddefnyddir yn eich sefydliad ar hyn o bryd a chymharu effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd
  8. Pennu newidiadau sy'n diweddaru systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi er mwyn ymateb i ofynion newidiol
  9. Cyflwyno gwybodaeth ynghylch gwelliannau posibl i systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi, gan nodi'n glir yr amcanion, yr ystyriaethau gweithredol a'r costau gweithredu
  10. Ceisio adborth ynghylch argymhellion ar gyfer newidiadau i systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi gan yr holl bobl berthnasol
  11. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Diben monitro oddi mewn i'r system a'r broses gweithrediadau buddsoddi
  2. Y fframwaith rheoliadol a'r gofynion o ran monitro a goruchwyliaeth
  3. Rôl goruchwylio effeithiol wrth gynnal allbynnau gwaith o ansawdd
  4. Manylebau systemau a phrosesau gweinyddol sefydliadol
  5. Canllawiau sefydliadol ar gyfer monitro a goruchwylio
  6. Rheoliadau cydymffurfio sy'n ymwneud â systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi
  7. Llinellau adrodd yng nghyswllt gwella systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi
  8. Ffynonellau cymorth a chefnogaeth technegol o fewn y sefydliad
  9. Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol yn cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
  2. Rydych yn chwilio am ffyrdd mwy effeithlon o weithio
  3. Rydych yn arddangos chwilfrydedd i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd
  4. Rydych yn ymateb yn gyflym i broblemau posibl

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPIO08

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr