Mesur a dadansoddi perfformiad buddsoddiadau

URN: FSPIO06
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â mesur a dadansoddi perfformiad buddsoddiadau. Mae'n cwmpasu casglu gwybodaeth am berfformiad, ynghyd â dadansoddi a chyflwyno'r wybodaeth honno. Cesglir gwybodaeth am berfformiad buddsoddiadau, er enghraifft, o symudiadau prisiau a thueddiadau'r farchnad, y mae modd eu dadansoddi wedyn yn erbyn amcanion y gronfa neu'r cyfrif. Mae angen cyfleu canlyniadau'r dadansoddiad hwn, mewn fformat cyflwyno derbyniol, i reolwyr cronfeydd, rheolwyr buddsoddi ac ati.  Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu a dadansoddi gwybodaeth ynghylch perfformiad cronfeydd neu gyfrifon, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Mesur perfformiad yn erbyn amcanion a meini prawf eraill dilys, gan ddefnyddio profion derbyniol
  3. Cymharu a chyferbynnu perfformiad gwirioneddol a phosibl cronfeydd neu gyfrifon
  4. Gwirio bod gwybodaeth ynghylch perfformiad cronfeydd neu gyfrifon yn gyflawn, yn gywir ac yn cael ei chyflwyno'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Adrodd canlyniadau yn y fformat gofynnol i'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cyflwyno dadansoddiad o berfformiad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad. Gwirio bod canlyniadau mesur perfformiad yn arwydd o berfformiad i'r dyfodol ac argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol
  7. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Strwythur y farchnad fuddsoddi ac effaith tueddiadau'r farchnad ar berfformiad cronfeydd neu gyfrifon
  2. Ffynonellau allweddol o wybodaeth ddibynadwy a pherthnasol mewn perthynas â pherfformiad cronfeydd neu gyfrifon
  3. Defnydd o fodelau ystadegol i ddadansoddi gwybodaeth am berfformiad cronfeydd neu gyfrifon
  4. Gofynion rheoliadol o ran union berfformiad cronfeydd a rhagfynegi perfformiad cronfeydd
  5. Defnydd o systemau priodol ar gyfer mesur perfformiad cronfeydd neu gyfrifon oddi mewn i'ch sefydliad eich hun
  6. Amcanion cyffredinol cronfeydd neu gyfrifon yr ydych chi'n ymwneud â nhw
  7. Cydweithwyr sy'n berthnasol i'r gwaith sy'n cael ei wneud, eu rolau gwaith, a'u cyfrifoldebau
  8. Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
  9. Ffynonellau data ar gyfer perfformiad cronfeydd neu gyfrifon, gan gynnwys perfformiad cystadleuwyr
  10. Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn sylwi ar newid amgylchiadau'n brydlon ac yn cymryd hynny i ystyriaeth yn eich gwaith
  2. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPIO06

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr