Cysoni trafodion y farchnad fuddsoddi

URN: FSPIO03
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chysoni trafodion y farchnad fuddsoddi. Mae'n ymwneud â phrynu neu werthu stoc, neu drafodion ariannol a'r gofyniad i'r unigolyn gysoni gwargedau'r buddsoddwr, y rhanddeiliad neu'r cyfrif banc â'r trafodion a wnaed. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â monitro a datrys gwallau ac anghysondebau a allai fod yn niweidiol i'r buddsoddwr neu'r rhanddeiliad neu i'ch sefydliad eich hun. Mae cyfathrebu ag eraill, megis arbenigwyr ar gydymffurfio neu geidwaid, hefyd yn elfen bwysig o berfformiad yn y safon. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cysoni pob cofnod o drafodion stoc neu arian, gwargedau cyfrifon a manylion asedau a ddelir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Delio gyda gwaith cysoni yn ôl y flaenoriaeth sy'n ofynnol gan weithdrefnau eich sefydliad
  3. Ymchwilio i anghysondebau neu broblemau a nodwyd wrth gysoni, a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cyfeirio anghysondebau neu broblemau na allwch eu datrys at yr awdurdod priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Nodi ac ymateb i achosion gwirioneddol neu bosibl o beidio â chydymffurfio â rheoliadau, ac adrodd amdanynt i'r awdurdod perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Paratoi gwybodaeth ynghylch daliadau neu gronfeydd sy'n gyflawn, yn gywir ac wedi'i chyflwyno yn y fformat priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y fframwaith rheoliadol mewn perthynas â chysoni trafodion y farchnad fuddsoddi a beth yw goblygiadau gwallau cysoni o ran y sefydliad a'r buddsoddwr neu'r rhanddeiliad
  2. Strwythur y farchnad fuddsoddi a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni
  3. Prif nodweddion mathau allweddol o gynnyrch
  4. Proses gysoni'r sefydliad, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer canfod gwahaniaethau a'ch rôl eich hunan yn y broses
  5. Strwythur adrodd y sefydliad a'ch cyfrifoldeb chithau oddi mewn iddo
  6. Safonau gwasanaeth y sefydliad a'r angen am eu cynnal
  7. Ffynonellau data allweddol mewn perthynas â'r broses gysoni (er enghraifft, rhestrau stoc, digwyddiadau cwmni, ac ati)
  8. Lefel eich awdurdod personol ac at bwy y dylai anghysondebau neu broblemau gael eu cyfeirio
  9. Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol yn effeithio ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
  2. Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
  3. Rydych yn nodi ac yn codi pryderon o fewn yr amgylchedd gweithio

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPIO03

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr