Paratoi dogfennau polisi yswiriant ar gyfer busnes newydd cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi dogfennnau polisi yswiriant ar gyfer busnes newydd cymhleth. Bydd y safon hon yn addas i chi os byddwch chi'n paratoi polisïau o ddogfennau gwreiddiol, neu'n defnyddio cyfleuster llofnodi canolog. Mae'r safon hon yn gofyn eich bod chi'n penderfynu pa ffurflen bolisi, geiriad ac atodiadau y dylid eu defnyddio. Mae'n golygu cymryd yr wybodaeth o'r ddogfen wreiddiol a bydd yn galw am ddethol geiriad sydd â'r un ystyr a goblygiadau â'r rhai a gyd-drafodwyd. Mae hefyd yn golygu cynhyrchu'r dogfennau'n unol ag arferion a rheoliadau'r farchnad, a chan ddefnyddio'r dull priodol. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Drafftio polisïau a chyfyngiadau o fewn lefel eich awdurdod, gan ymgorffori'r holl wybodaeth o'r dogfennau gwreiddiol
- Cyfathrebu ag eraill i sicrhau bod unrhyw amwysderau'n cael eu datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymgorffori unrhyw addasiadau a wnaed i'r geiriad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Defnyddio geiriad diamwys sydd â'r un ystyr a goblygiadau â'r hyn a gyd-drafodwyd
- Gwirio bod polisïau'n bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod y dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu dogfennau polisi i'r rhai sydd eu hangen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd paratoi polisi i'w weld yn mynd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyflwyno polisïau.
- Gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer cyflwyno dogfennau
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cwsmer
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn