Prosesu newidiadau uniongyrchol ganol tymor i yswiriant

URN: FSPGI13
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu trefniadau yswiriant uniongyrchol ganol tymor. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau newidiadau uniongyrchol i yswiriant. Mae'r safon hon yn cwmpasu gwaith canolwr pan fydd cwsmer yn dymuno newid polisi. Ar ôl casglu'r wybodaeth, cyflwynir y manylion i'r tansgrifenwyr os bydd angen, a byddwch chi'n rheoli'r broses o newid. Yna gwneir trefniadau i addasu'r premiwm a chyflwyno dogfennau sy’n cynnwys y newidiadau i'r cwsmer.  Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.

Bydd y
safon hon yn addas i chi dim ond os ydych chi'n gweithio i ganolwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu gwybodaeth sy'n ofynnol i symud ymlaen gyda newidiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen
  3. Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cyfleu gwybodaeth gywir a chyflawn ynghylch addasiadau i yswirwyr neu dansgrifenwyr, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. Adnabod unrhyw nodweddion sy'n dangos y dylid tansgrifennu o'r newydd, a phenderfynu a ddylid ailfrocera'r risg
  6. Sicrhau eglurhad gan gwsmeriaid ynghylch unrhyw gwestiynau a godwyd gan yr yswirwyr a throsglwyddo'r wybodaeth yn ôl i'r yswirwyr
  7. Rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid sy'n diwallu eu gofynion ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. Monitro cynnydd addasiadau a delio gydag unrhyw oedi lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. Gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw addasiad i'r premiwm, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. Trefnu i gyfwyno dogfennau sy'n cynnwys y newidiadau i gwsmeriaid o fewn yr amser gofynnol, ar ôl gwirio am anghysondebau a'u cywiro
  11. Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
  4. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  5. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  6. Sut mae defnyddio canllawiau graddio neu systemau cyfrifiadurol i gyfrifo premiymau
  7. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer addasu polisi safonol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth hanfodol gysylltiedig sy'n ofynnol gan y cwsmer
  8. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd newid yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
  9. Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd addasiad y tu hwnt i'r terfynau hynny
  10. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
  11. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cleient
  2. Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
  3. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  4. Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o ofynion ac anghenion gwahanol gwsmeriaid

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI13

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad