Prosesu adnewyddiadau yswiriant uniongyrchol fel canolwr

URN: FSPGI12
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu adnewyddiadau yswiriant uniongyrchol fel canolwr.  Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau adnewyddiadau. Byddwch yn prosesu'r polisïau y mae'n bryd eu hadnewyddu, gan gydymffurfio â'r rheoliadau cyfredol. Byddwch yn asesu a oes angen chwilio am ddyfynbris amgen ar gyfer y cwsmer neu beidio. Anfonir y gwahoddiad i adnewyddu at y cwsmer unwaith y byddwch wedi derbyn unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy'n angenrheidiol i symud ymlaen gyda'r adnewyddiad. Yna byddwch yn monitro cynnydd yr adnewyddiad, gan sicrhau nad oes oedi yn y broses. Byddwch yn gwirio bod y dogfennau adnewyddu yn gywir ac yn eu rhyddhau ar ôl dod i gytundeb ynghylch taliad. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.

Bydd y safon hon yn addas i chi dim ond os ydych chi'n gweithio i gwmni sy'n ganolwr, sy'n delio gydag adnewyddiadau uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Delio gydag adnewyddiadau fel yr awdurdodwyd gan eich sefydliad
  2. Dechrau delio gydag adnewyddiadau sydd ar droed o fewn y terfynau amser sy'n ofynnol gan eich cyflogwr a'r rheoleiddiwr
  3. Casglu gwybodaeth sy'n ofynnol i symud ymlaen gydag adnewyddiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen
  5. Adnabod unrhyw nodweddion sy'n dangos y dylid tansgrifennu o'r newydd, a phenderfynu a ddylid ailfrocera'r risg
  6. Cyfeirio sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Datrys unrhyw gwestiynau ynghylch dogfennaeth adnewyddu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Gwneud cais am unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth sy'n ofynnol a'u storio'n ddiogel, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. Trefnu bod dogfennau priodol yn cael eu dosbarthu i gwsmeriaid o fewn y  terfynau amser sy'n ofynnol gan y rheoleiddwyr ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Gwneud cais am gyfarwyddiadau adnewyddu gan eich cwsmer
  11. Monitro cynnydd adnewyddiadau a delio gydag unrhyw oedi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. Trefnu i ryddhau dogfennau adnewyddu pan gytunwyd ar y trefniadau ar gyfer talu
  13. Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  14. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion yswiriant a chyfreithiol perthnasol a rheoliadau sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
  4. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad sy'n berthnasol i adnewyddiadau
  5. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd adnewyddiad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
  6. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
  7. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
  8. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  9. Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd adnewyddiad y tu hwnt i'r terfynau hynny
  10. Sut mae defnyddio canllawiau graddio a systemau cyfrifiadurol i gyfrifo premiymau
  11. Yr wybodaeth a ddylai gael ei chyflenwi gan gleientiaid i'ch galluogi i brosesu adnewyddiadau
  12. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cleient
  2. Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI12

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad