Cytuno ar setliad hawliadau uniongyrchol am golledion oedd heb eu hyswirio

URN: FSPGI09
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno ar setliad ar gyfer hawliadau uniongyrchol colledion heb eu hyswirio.  Bydd eich gwaith yn cynnwys cwblhau colledion heb eu hyswirio. Byddwch yn cynorthwyo cwsmeriaid i adennill colledion heb eu hyswirio. Byddwch yn gwirio bod gennych chi'r holl ddogfennaeth neu wybodaeth ofynnol i ddelio gyda'r elfen o'r hawliad sy'n ymdrin â cholled heb ei yswirio. Byddwch yn mynd ar ôl eraill, fel sy'n angenrheidiol, i sicrhau bod adennill yn digwydd.  Bydd angen hefyd i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.

Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr costau cyfreithiol, neu unrhyw sefydliad sy'n ymwneud â chytuno ar setliad ar gyfer colledion uniongyrchol heb eu hyswirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi a chasglu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gytuno ar setliad ar gyfer yr hawliad
  2. Gwirio bod hawliadau yn cael eu llunio a'u cyflwyno i drydydd partïon yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  3. Monitro cynnydd hawliadau a delio gydag unrhyw oedi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  4. Cyfeirio problemau a hawliadau sydd y tu allan i lefelau eich awdurdod at y person neu'r adran yn eich sefydliad sy'n briodol
  5. Cyd-drafod ag eraill i ddatrys problemau a chwblhau hawliadau er lles pennaf eich cleient ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Trefnu i setlo hawliadau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. Ymdrin ag unrhyw broblemau neu gwynion sy'n gysylltiedig â hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau, taliadau ychwanegol neu gyfyngiadau safonol
  4. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor ar gyfer delio gyda hawliadau cymhleth a cholledion heb eu hyswirio
  5. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliadau'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
  6. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cholledion heb eu hyswirio
  7. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi sut setlwyd hawliadau
  8. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
  9. Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
  10. Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
  11. Y dogfennau neu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu hawliad
  12. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
  2. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  3. Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI09

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad