Delio gyda hawliadau cymhleth am golledion oedd heb eu hyswirio

URN: FSPGI04
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â delio gyda hawliadau cymhleth am golledion oedd heb eu hyswirio.  Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau hawliadau cymhleth am golledion heb eu hyswirio. Mae colled heb ei hyswirio yn gymhleth os nad yw'n fater o drefn ac os nad oes modd delio gyda hi'n fecanyddol, er enghraifft, hawliadau sy'n galw am gyd-drafod atebolrwydd, anghydfodau ynghylch lliniaru colled neu anaf personol, neu rai sy'n dechnegol heriol oherwydd materion cyfreithiol cymhleth neu oblygiadau ariannol sylweddol. Mae'r uned hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth ynghylch amgylchiadau a natur yr hawliad a rhoi arweiniad i'r cwsmer ynghylch yr ateb gorau, gan gymryd i ystyriaeth egwyddorion cyfreithiol a'r rhagolygon o ran adennill colled y cwsmer. Mae hefyd yn golygu cyd-drafod i setlo'r hawliad, er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i'ch cwsmer a rhoi arweiniad i'r cwsmer ynghylch y ffordd orau o symud ymlaen ymhellach petai angen hynny. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.

Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr costau cyfreithiol, neu unrhyw sefydliad sy'n ymwneud â mynd ar ôl ac adennill colledion heb eu hyswirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cofnodi gwybodaeth gywir ynghylch amgylchiadau hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd nad ydych wedi'ch awdurdodi i ddelio gyda nhw at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Cynnig arweiniad a fydd yn darparu'r ateb gorau i'r cwsmer, o ystyried egwyddorion cyfreithiol, lleddfu colledion a rhagolygon adennill, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Casglu unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth sy'n ofynnol i sicrhau cynnydd hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Delio gydag unrhyw anghysondebau yn yr wybodaeth neu'r dogfennau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Gwirio bod hawliadau'n cael eu llunio a'u cyflwyno i'r trydydd parti yn gywir, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cyd-drafod setlo hawliadau er lles pennaf cleientiaid ac yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Monitro a chynnal cynnydd yng nghyswllt hawliadau, gan gymryd camau perthnasol i sicrhau y cedwir at y terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Rhoi gwybod i'r holl bartïon â diddordeb am ganlyniad hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Monitro a chynnal cynnydd yng nghyswllt hawliadau, gan gymryd camau i sicrhau y cedwir at y terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau, taliadau ychwanegol neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
  4. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
  5. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cholledion heb eu hyswirio
  6. Pwysigrwydd defnyddio a chyfarwyddo arbenigwyr allanol, a sut mae gwneud hynny
  7. Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
  8. Y systemau ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
  9. Y dogfennau neu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu hawliad
  10. Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
  11. Sut mae rhoi gwybod i'ch cleient os caiff yr hawliad ei wrthod yn llwyr neu'n rhannol
  12. Pwysigrwydd defnyddio a chyfarwyddo arbenigwyr allanol, a sut mae gwneud hynny
  13. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  2. Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw
  3. Rydych yn canolbwyntio sylw personol ar fanylion penodol sy'n hollbwysig i sicrhau canlyniadau llwyddiannus
  4. Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
  5. Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol
  6. Rydych yn deall ac yn gallu ymdrin â materion cyfreithiol ac ariannol cymhleth
  7. Rydych yn nodi'r amrywiaeth o elfennau mewn sefyllfa a'r berthynas rhyngddynt a'i gilydd
  8. Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau penderfyniad
  9. Rydych yn gallu cyfleu gwybodaeth sy'n hybu dealltwriaeth
  10. Rydych yn gweithio mewn modd sy'n gwella perthnasoedd busnes
  11. Rydych yn canolbwyntio sylw personol ar fanylion penodol sy'n hollbwysig i sicrhau canlyniadau llwyddiannus

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI04

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad