Datblygu a chynnal cysylltiadau busnes â chyflwynwyr gwasanaethau ariannol

URN: FSPFSSP02
Sectorau Busnes (Suites): Proses Gwerthu Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a monitro perthnasoedd busnes cynhyrchiol gyda chyflwynwyr trydydd parti. Mae hyn yn cynnwys nodi cyflwynwyr newydd posibl, sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer trafodion busnes, ac yna cytuno ar 'delerau busnes' gyda nhw. Byddwch hefyd yn monitro'r busnes sydd ar waith i sicrhau bod y perthnasoedd yn mwyafu'r busnes cyffredinol i'ch sefydliad. Bydd angen i chi ddelio gyda chyflwynwyr mewn modd sy'n hybu ac yn cynnal ewyllys da.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Datblygu cynlluniau i gael hyd i gyflwynwyr newydd a meithrin perthynas broffesiynol gyda nhw yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Cysylltu â chyflwynwyr posibl gyda gwybodaeth ynghylch eich sefydliad a chynnyrch a gwasanaethau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Casglu gwybodaeth am gyflwynwyr posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Dethol cyflwynwyr sy'n cynnig cyfleoedd i hybu busnes eich sefydliad ac sy'n gweithredu mewn modd cydnaws â nodau a moeseg eich sefydliad
  5. Rhoi gwybod i gyflwynwyr yr asesir eu bod yn amhriodol i wneud cynnydd ynghylch eich penderfyniad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cytuno ar delerau busnes gyda chyflwynwyr newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Monitro atgyfeiriadau busnes gan gyflwynwyr ac asesu eu lefel a'u hansawdd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cyfnewid busnes gyda chyflwynwyr i fwyafu'r cyfleoedd busnes ar gyfer eich sefydliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Ymchwilio i'r rhesymau pam nad yw lefelau busnes yn cyfateb i'r disgwyl a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Gwerthuso eich cynnydd wrth ddatblygu perthynas fusnes gyda chyflwynwyr a defnyddio hynny i lywio gweithgareddau i'r dyfodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Cadw cofnodion o gytundebau gyda chyflwynwyr a'r cyfleoedd busnes maen nhw'n eu cyflwyno, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Nodweddion y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
  2. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cymeradwyo a monitro cyflwynwyr
  3. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt codau perthnasol, a gofynion cyfreithiol a rheoliadol
  4. Yn gyffredinol, sut gallai pob un o'r prif fathau o gyflwynwyr fod o fudd i ddatblygiad busnes eich sefydliad.
  5. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
  2. Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
  3. Rydych yn cyflawni tasgau gan roi sylw dyledus i bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPFSSP02

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyflwynydd ariannol; cyfle busnes; perthynas fusnes; hyrwyddo cynnyrch