Darparu cymorth arbenigol i alwyr mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol

URN: FSPFCS01
Sectorau Busnes (Suites): Gofal Cwsmeriaid Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu galwyr sydd angen cymorth arbenigol. Gall hyn gynnwys cymorth TG technegol (e.e. wrth ddelio gyda bancio ar y rhyngrwyd) neu gymorth arbenigol ym maes gwasanaethau ariannol. Mae hyn yn cwmpasu darparu cymorth a threfnu bod arbenigwyr eraill yn cynorthwyo'r galwr petai angen. Bydd angen i chi ddefnyddio cwestiynau priodol i gasglu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd gwybodaeth pan fydd hynny'n ofynnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cadarnhau canfyddiadau'r cwsmer o'r cymorth arbenigol mae'n ei geisio, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Asesu'r wybodaeth a roddwyd gan gwsmeriaid yn ddigon manwl i benderfynu ar y camau mwyaf priodol i'w cymryd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Rhoi gwybod i gwsmeriaid am gamau gweithredu posibl a'u goblygiadau lle bo hynny'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cytuno gyda chwsmeriaid ar natur a chwmpas y cymorth arbenigol sy'n ofynnol i ddiwallu eu hanghenion
  5. Darparu cymorth arbenigol sy'n briodol ar gyfer anghenion cwsmeriaid ac o fewn eich awdurdod a'ch gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cyfeirio cwsmeriaid at bobl berthnasol i gael cymorth pellach pan na fydd y cymorth arbenigol sy'n ofynnol yn diwallu eu hanghenion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cysylltu â'r bobl berthnasol i benderfynu ar y camau nesaf pan fydd y cymorth arbenigol sy'n ofynnol y tu allan i'ch maes gwybodaeth neu eich awdurdod, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Gweithredu trwy roi gweithdrefnau cymeradwy ar waith lle deuir ar draws problemau wrth ddarparu'r cymorth angenrheidiol
  9. Cofnodi'r wybodaeth a gasglwyd a'r cymorth a gynigiwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Defnyddio cwestiynau agored a chaeedig a'r dulliau o gasglu gwybodaeth gan wahanol gleientiaid
  2. Sut mae asesu faint o wybodaeth sy'n ofynnol cyn bod modd darparu cymorth effeithiol
  3. Sut mae dadansoddi a blaenoriaethu'r wybodaeth a ddarperir gan gwsmeriaid, fel bod modd diwallu eu hanghenion o ran gwasanaethau ariannol
  4. Mathau nodweddiadol o gymorth a gynigir gan eich sefydliad ac y mae cwsmeriaid yn eu ceisio
  5. Pwysigrwydd sgiliau gwrando wrth ddelio gyda chwsmeriaid
  6. Sut mae addasu a defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol i helpu dealltwriaeth eich galwr
  7. Eich lefelau cyfrifoldeb, ac at bwy dylech chi gyfeirio pan eir dros ben y lefelau hynny
  8. Pwysigrwydd rheoli amser, a sut mae defnyddio amser yn effeithiol wrth gydbwyso anghenion cwsmeriaid â rhai eich sefydliad
  9. Safonau trafod galwadau eich sefydliad, yng nghyswllt ansawdd galwadau a'r gwasanaeth a ddarperir
  10. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn delio gyda chwsmeriaid mewn modd ac ar gyflymdra sy'n addas at anghenion y galwr
  2. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
  3. Rydych yn arddangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion gwirioneddol a chanfyddedig
  4. Rydych yn defnyddio sgiliau gwrando priodol wrth ddelio gyda galwyr

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPFCS01

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfathrebu; awdurdod; polisi; gweithdrefn; rheoleiddio; rheoliadol; rheoli amser; galw; galwr