Datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
URN: FSPFCC03
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cymwyseddau Craidd Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr, oddi mewn i'ch sefydliad eich hun a sefydliadau cysylltiedig sy'n gynhyrchiol o ran cefnogi a chyflawni eich gwaith, a gwaith y sefydliad yn gyffredinol. Cydweithwyr yw unrhyw bobl y mae disgwyl i chi weithio gyda nhw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sefydlu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr. Adnabod rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn eich gweithle
- Ystyried blaenoriaethau, disgwyliadau ac awdurdod cydweithwyr o ran penderfyniadau a chamau gweithredu
- Cyflawni ymrwymiadau gwaith a wnaed gyda chydweithwyr a chadarnhau gyda nhw pan fyddant wedi'u cwblhau
- Rhoi gwybod i gydweithwyr am unrhyw anawsterau neu lle bydd yn amhosibl cyflawni gwaith y cytunwyd arno
- Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir i helpu i hybu dealltwriaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rheoli perthnasoedd gyda chydweithwyr i gefnogi cyflawni eich gwaith yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gyda chydweithwyr i sicrhau bod yr holl bartïon yn gallu gweithio'n effeithiol
- Neilltuo amser i gefnogi eraill, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Manteision datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr
- Egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut mae eu rhoi ar waith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr
- Sut mae rheoli perthnasoedd gyda chydweithwyr a thechnegau ar gyfer rhoi trefn arnynt
- Pwysigrwydd cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gyda chydweithwyr
- Cydweithwyr sy'n berthnasol i'r gwaith sy'n cael ei wneud, eu rolau gwaith, a'u cyfrifoldebau
- Prosesau o fewn y sefydliad ar gyfer gwneud penderfyniadau
- Y safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir yn eich sefydliad
- Gwybodaeth ac adnoddau y gallai fod ar wahanol gydweithwyr eu hangen
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn parchu barn a chamau gweithredu pobl eraill
- Rydych yn derbyn cyfrifoldeb personol am eich gweithredoedd
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFCC03
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hunan-ddatblygiad; amcanion gwaith; gwaith tîm; rôl gwaith; amcanion; perthnasoedd gwaith; cyfathrebu; cydweithwyr; rheoliadol; polisi; gweithdrefn; cydymffurfio; diffyg cydymffurfio