Pridiannu a rheoli sicrwydd ar gyfer ariannu
URN: FSPFC03
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd, cynnal a rhyddhau sicrwydd dilys, gan gydymffurfio â gofynion eich sefydliad. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith a bydd angen i chi sicrhau bod sicrwydd yn ddilys, wedi'i yswirio pan fo angen, ac yn y cyflwr a ddisgwylid gan eich sefydliad. Bydd angen hefyd i chi fonitro cyflwr parhaus, sefyllfa yswiriant a gwerth y sicrwydd, er mwyn sicrhau bod buddiant eich sefydliad yn y sicrwydd yn cael ei gynnal. Pan ddaw'r cytundeb ariannol i ben, bydd disgwyl i chi ryddhau'r sicrwydd a gwneud trefniadau i'r hawl ar y sicrwydd gael ei ddychwelyd i'r cwsmer neu ei gynrychiolydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bodolaeth, gwerth ac yswiriant sicrwydd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu i aseinio neu adneuo sicrwydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cwblhau'r broses o bridiannu'r sicrwydd gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Canfod a diweddaru gwerth marchnad cyfredol y sicrwydd
- Cadarnhau bod pob yswiriant sy'n ofynnol ar gyfer y sicrwydd yn gyfredol, yn ddigonol o ran gwerth, ac yn ddilys am y cyfnod gofynnol
- Rhyddhau enghreifftiau o sicrwydd y mae gennych awdurdod ar eu cyfer, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Anfon hysbysiadau i'r holl bartïon â diddordeb yn nodi bod buddiant eich sefydliad wedi cael ei ganslo, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod rhyddhau cyfreithiol yn digwydd gan gyfeirio at gynrychiolydd cyfreithiol eich sefydliad
- Trosglwyddo eitemau sicrwydd sydd wedi'u rhyddhau i'ch cwsmeriaid yn erbyn derbynneb ffurfiol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau i ddatrys problemau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cwblhau'r holl ddogfennau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
- Y ffynonellau gwybodaeth ynghylch cynnal a rhyddhau sicrwydd
- Yr elfennau ffurfiol y mae'n rhaid eu cwblhau, a'r cofnodion y mae angen eu cadw ar gyfer gwahanol fathau o sicrwydd
- Y camau y dylech eu cymryd i ddatrys problemau
- Canllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cynnal dilysrwydd sicrwydd.
- Mathau o sicrwydd, elfennau tebyg i sicrwydd, ac asedau y gellir eu pridiannu
- Y bobl y dylech chi gyfeirio problemau atynt, ac y gallwch droi atynt am gyngor
- Y dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer y gwahanol fathau o sicrwydd
- Y partïon sy'n ymwneud â buddiant eich sefydliad mewn sicrwydd
- Sut mae gwirio bodolaeth, gwerth ac yswiriant sicrwydd
- Diben rhyddhau sicrwydd, a'r weithdrefn ar gyfer gwneud hynny
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn
effeithlon ac yn foesegol
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFC03
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd