Monitro a diogelu trefniadau ad-dalu dyledion

URN: FSPDC06
Sectorau Busnes (Suites): Casgliadau Dyledion
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a diogelu trefniadau ad-dalu dyledion.  Mae'n ymwneud â defnyddio gwybodaeth eich sefydliad ynghylch trefniadau ad-dalu yn effeithiol i wirio bod cyfrifon wedi cael eu rheoleiddio, yn ogystal ag achosion o beidio â gwneud ad-daliadau y gall fod angen i chi gymryd camau pellach yn eu cylch. Dylid cynnal lefelau priodol o gysylltiad rhwng y credydwr a'r dyledwr, neu eu cynrychiolydd enwebedig, i ddiogelu a chynnal ad-daliadau boddhaol yn y dyfodol. Bydd angen i chi ddangos cysondeb wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ag uniondeb bob amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod gweithdrefnau yn eu lle i adolygu achosion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Nodi achosion yng nghyfrifon dyledwyr o reoleiddio, setlo, peidio â gwneud ad-daliadau a pharhau i beidio â gwneud ad-daliadau
  3. Blaenoriaethu achosion lle mae angen cymryd camau pellach, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Mewn ymateb i barhau i beidio â gwneud ad-daliadau, cychwyn camau gweithredu priodol ar gyfer amgylchiadau dyledwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Parhau i adolygu trefniadau ad-dalu a chyd-drafod a chytuno ar drefniadau ad-dalu diwygiedig addas gyda dyledwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Gwirio bod hysbysiadau cyfreithiol yn cael eu cyflwyno yn ôl y galw, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Gwirio bod cyfrifiadau ad-daliadau diwygiedig yn gywir, a'u bod yn cymryd i ystyriaeth y gyfradd llog y cytunwyd arni gan y sefydliad
  8. Monitro lefelau ad-daliadau ac unrhyw ddiffygion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cynnal lefelau priodol o gysylltiad â dyledwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cadw mewn cysylltiad â'r sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli i sicrhau bod y lefelau ad-dalu cyfredol yn ddigonol a chymryd camau priodol lle nad yw hynny'n wir bellach
  11. Gwirio bod gweithgareddau monitro a diogelu yn cael eu cyflawni yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Gwirio bod cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru o newidiadau i amgylchiadau ariannol dyledwyr yn cael eu cadw yn unol â gofynion eich sefydliad
  13. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
  14. Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro achosion a lefelau'r cyfathrebu â'r partïon perthnasol
  2. Y defnydd o systemau cyfrifiadurol a phryd y gallai fod angen eu diystyru
  3. Sut mae adnabod rheoleiddio cyfrifon, setliadau sydd heb eu had-dalu ac achosion lle mae peidio ag ad-dalu yn parhau
  4. Sut mae blaenoriaethu achosion ar gyfer gweithredu pellach
  5. Y camau mae'n ofynnol i chi eu cymryd, a phryd, oddi mewn i'r ad-dalu
  6. Sut mae canfod pryd mae'n briodol ailagor trafodaeth ynghylch ad-daliadau, a phryd nad yw hynny'n briodol
  7. Sut mae cyd-drafod i sicrhau canlyniad effeithiol
  8. Y mathau o hysbysiadau cyfreithiol a gyflwynir yng nghyswllt casglu dyledion
  9. Sut mae gwirio cywirdeb a dilysrwydd cyfrifiadau ad-dalu
  10. Sut mae adnabod problemau posibl gyda'r dyledwr a allai effeithio ar wneud ad-daliadau yn y dyfodol
  11. Hawliau cyfreithiol gwahanol fathau o gredydwyr a dyledwyr
  12. Targedau gweithredol eich sefydliad fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau
  13. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
  14. Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
  15. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos pendantrwydd a hyder wrth weithredu
  2. Rydych yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd trefnus
  3. Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPDC06

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-ddyledion; credyd; ad-dalu; peidio â gwneud ad-daliadau; heb eu talu; risg; ansolfedd; credydwr; dyledwr; esgaladu.