Defnyddio gweithdrefnau rheoli credyd

URN: FSPCP03
Sectorau Busnes (Suites): Taliadau Cwsmeriaid am Gynnyrch a Gwasanaethau Arianno
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio gweithdrefnau rheoli credyd. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os yw eich gwaith yn cynnwys canfod achosion o beidio â thalu a chymryd camau priodol i adennill arian sy'n ddyledus. Mae defnyddio gweithdrefnau rheoli credyd yn gofyn eich bod yn adnabod yn gywir ac yn deall y rheswm/rhesymau dros beidio â thalu, yn nodi cyfleoedd i gasglu arian, ac yn sylweddoli pryd y dylid cyfeirio dyledion sydd heb eu talu at eraill yn eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys achosion lle cafwyd taliad rhannol. Bydd angen i chi gymryd i ystyriaeth oedran y ddyled, yn ogystal â'i gwerth a'r math o fusnes. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith a gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi achosion o beidio â thalu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Nodi dyledion gwael a rhai a allai droi'n wael yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Cymryd camau i adennill arian sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Canfod y rhesymau dros beidio â thalu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Egluro anghysondebau a gofyn am unrhyw symiau sydd heb eu talu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Sicrhau cytundeb y cwsmer i dalu'r swm sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cytuno ar ddulliau talu priodol gyda'r cwsmer a monitro eu cydymffurfiaeth â hwy
  8. Nodi achosion o beidio â thalu sy'n parhau a chymryd camau priodol sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Nodi natur ac amgylchiadau deilydd y cyfrif a'u cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu pa gamau i'w cymryd sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cadw cofnodion wedi'u diweddaru o'r holl gamau a gymerwyd oedd yn ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
  2. Safonau eich sefydliad o ran amserlenni
  3. Sut mae gwybodaeth yn cael ei storio a sut mae cael mynediad iddi
  4. Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  5. Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
  6. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  7. Gweithdrefnau taliadau cwsmeriaid
  8. Systemau cyfriflenni
  9. Systemau, gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer delio gyda thaliadau hwyr
  10. Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
  11. Gweithdrefnau esgaladu wrth ddelio gyda thaliadau hwyr
  12. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer adnabod dyledion gwael a rhai a allai fod yn wael
  13. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  2. Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPCP03

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Taliadau; cyfrifiadau; anghysondebau; cysoni; peidio â thalu; rhandaliadau; debyd uniongyrchol; BACs; ADDACS