Prosesu trosglwyddiadau arian cyfredol tramor

URN: FSPBA08
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i brosesu trosglwyddo pob math o arian tramor, yn unol â gofynion eich sefydliad. Bydd angen i chi weithredu cyfrifon arian cyfredol a threfnu bargeinion cyfnewid arian tramor i gwsmeriaid. Bydd rhaid i chi ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau i drosglwyddo cyllid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Rhoi gwybod i gwsmeriaid am y dull mwyaf priodol o drosglwyddo cyllid dramor yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch y cyfraddau cyfnewid sydd ar gael, y cyfyngiadau a'r taliadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Cadarnhau argaeledd cyllid i'w drosglwyddo dramor ac anfon contractau gyda'r bobl berthnasol ymlaen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Casglu cyfarwyddiadau cwsmeriaid ar gyfer trosglwyddiadau tramor a chwblhau'r cais yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Trosglwyddo ceisiadau i'r uned wasanaethu oddi mewn i derfynau amser priodol, gan ddefnyddio gweithdrefnau diogelu cywir
  6. Prosesu ceisiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Rhoi gwybod i gwsmeriaid ynghylch derbyn cyllid o dramor a'r taliadau a godir yn dilyn hysbysiad gan yr uned wasanaeth
  8. Cyflawni cyfarwyddiadau gwaredu cwsmeriaid, a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol
  9. Gweithredu cyfrifon arian cyfredol i gwsmeriaid sy'n addas at eu hanghenion a chyflenwi'r wybodaeth a'r tariffau priodol iddyn nhw
  10. Monitro cyfrifon arian cyfredol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Nodi gofynion cwsmeriaid o ran cyfnewid arian tramor, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Cyfleu cyfarwyddiadau'r cwsmer i ddelwyr yn yr uned wasanaethu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  13. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch sail cyfraddau cyfredol ac unrhyw gyfyngiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  14. Trosglwyddo cyfarwyddiadau sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod eich hun i bobl berthnasol
  15. Hysbysu rheolwyr y gangen am gyfansymiau cyfredol contractau parod a blaengontractau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  16. Cadw cofnodion wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  17. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Cyfraddau cyfnewid, cyfyngiadau a thaliadau cyfredol
  2. cyfraddau prynu a gwerthu
  3. Gweithdrefnau diogelu ar gyfer trosglwyddiadau
  4. Diben gwyngalchu arian a sut mae ei ganfod
  5. Gweithdrefnau ar gyfer delio gydag achosion lle mae amheuon ynghylch gwyngalchu arian a'r ddeddfwriaeth briodol
  6. Y bobl y dylech gyfeirio cyfarwyddiadau y tu allan i'ch cylch gorchwyl atynt
  7. Yr arian cyfredol sydd ar gael ac unrhyw gyfyngiadau a all fod yn berthnasol
  8. Ffynonellau gwybodaeth ynghylch cyfraddau
  9. Sut mae cwblhau a dilysu ceisiadau am drosglwyddo cyllid dramor
  10. Y mathau o drosglwyddiadau sydd ar gael, a'u nodweddion a'u manteision
  11. Gweithdrefnau ar gyfer awdurdodi taliadau
  12. Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer derbyn cyllid o dramor a chwblhau trafodion gyda chwsmeriaid
  13. Mathau o gyfrifon arian cyfredol a'u nodweddion a'u manteision, gan gynnwys eu cyfraddau llog
  14. Gweithdrefnau agor cyfrifon
  15. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro a chadw cofnodion o gyfrifon arian cyfredol
  16. Mathau o drefniadau cyfnewid a chontractau sydd ar gael, gan gynnwys blaengontractau
  17. Contractau sefydlog a chontractau opsiynau, contractau caeedig a rhai sy'n estyn
  18. Y bobl sydd wedi'u hawdurdodi i dderbyn cyfarwyddiadau a dogfennaeth penderfyniadau cwsmeriaid
  19. Gweithdrefnau eich sefydliad a'r terfynau cyfreithiol ar gyfer trefnu bargeinion tramor
  20. Gweithdrefnau ar gyfer trefnu i gyfnewid arian tramor
  21. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy yn y gwaith
  2. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
  3. Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
  4. Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion
  5. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i waith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPBA08

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfraddau cyfnewid; cyfyngiadau; taliadau a godir; cronfeydd; contract; cais; gwaredu; tariffau; cyfnewid arian tramor; contractau sydyn a blaengontractau; cyfradd prynu; cyfradd gwerthu; gwyngalchu arian