Rheoli gwasanaethau cownter mewn cangen

URN: FSPBA06
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli darpariaeth effeithiol o ran gwasanaethau cownter mewn cangen. Bydd angen i chi sicrhau paratoad priodol ar gyfer gwasanaethau cownter a'u cau, yn ogystal â darparu'r cyfryw wasanaethau'n effeithiol. Elfen hollbwysig o'ch gwaith fydd monitro, datrys problemau a sgiliau trefniadol, yr angen am gywirdeb a sicrhau bod gweithdrefnau'n cael eu dilyn. Byddwch yn gyfrifol am eraill sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cownter - er enghraifft, gallwch fod yn oruchwyliwr cownter neu'n arweinydd tîm. Bydd angen hefyd i chi ymfalchïo mewn darparu gwaith o safon uchel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cadarnhau bod cownteri wedi cael eu paratoi a'u gosod ar gyfer gwasanaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Monitro gweithgarwch y cownter i sicrhau bod anghenion y cwsmer yn cael eu diwallu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Datrys gwallau a nodwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Gwirio bod gweithgarwch y cownter a'r ddogfennaeth yn cydymffurfio â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Cynnal lefelau arian parod yn y tiliau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Ymdrin â thrafodion amheus neu anarferol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cadarnhau bod cownteri wedi cau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Delio gydag anghysondebau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cwblhau dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Nodi risgiau posibl, gan gynnwys risgiau gwyngalchu arian, yn unol â gofynion eich sefydliad
  11. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y sgiliau sy'n ofynnol i roi goruchwyliaeth effeithiol i staff sy'n darparu gwasanaeth cownter
  2. Canllawiau eich sefydliad o ran lefelau arian parod mewn tiliau
  3. Terfynau eich awdurdod chi, a'ch tîm, wrth ddelio gyda chwsmeriaid
  4. Gweithdrefnau diogelu sy'n berthnasol i'ch maes gwaith
  5. Gofynion eich sefydliad o ran gweithdrefnau a dogfennaeth wrth baratoi a defnyddio til
  6. Y gweithdrefnau cywiro cymeradwy ar gyfer datrys gwallau
  7. Gweithdrefnau oddi ar-lein ac ar alwad eich sefydliad
  8. Nodweddion allweddol y cynnyrch a'r gwasanaethau y gellid eu cynnig neu y gallai staff y cownter gyfeirio atynt
  9. Sut mae ymdrin â thrafodion amheus a nodwyd gan arianwyr, i gynnwys: tynnu arian allan heb awdurdod, amheuon bod dogfennau wedi'u ffugio, arian yr amheuir ei fod yn ffug, gwyngalchu arian
  10. Gweithdrefnau olrhain gwallau eich sefydliad
  11. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  2. Rydych yn neilltuo amser i gefnogi eraill

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPBA06

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwallau; gweithdrefnau; dogfennaeth; lefelau arian parod; trafodion amheus; anghysondebau; risgiau; gwyngalchu arian; goruchwyliaeth; gwaith tîm; awdurdod; diogeledd; tynnu allan