Hwyluso gwasanaeth gweinyddol ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol

URN: FSPAMFPI04
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddiaeth ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso gwasanaeth gweinyddol ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol. Rhaid i chi fedru delio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr mewnol, p'un a ydych chi'n ymateb i geisiadau cymhleth neu'n chwilio am wybodaeth newydd. Rhaid i chi fedru coladu'r wybodaeth angenrheidiol gan y cleient er mwyn medru trafod atebion priodol o ran morgeisi neu gynllunio ariannol, a pharatoi dogfennau i'w defnyddio gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi. Rhaid i chi fedru defnyddio gwybodaeth am lif busnes er mwyn canfod blaenoriaethau ar gyfer gweithredu pellach, dilysu'r apwyntiadau yn y dyddiadur, a rhoi systemau gweinyddiaeth swyddfa gywir ar waith. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr a chwilio am ffyrdd i'w cynorthwyo.  Bydd angen hefyd i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Delio gyda cheisiadau cymhleth am wybodaeth gan gleientiaid, a chydweithwyr, oddi mewn i'ch lefel o awdurdod
  2. Nodi ceisiadau am wybodaeth ynghylch cynnyrch a gwasanaethau ariannol y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb
  3. Cyfeirio materion sydd y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at gydweithwyr priodol
  4. Coladu'r wybodaeth sy'n ddigonol i baratoi dyfynbrisiau a darluniadau
  5. Sicrhau dyfynbrisiau a darluniadau i ddiwallu anghenion cleientiaid ac oddi mewn i derfynau eich awdurdod, mewn modd sy'n cydymffurfio â gofynion eich sefydliad
  6. Paratoi'r wybodaeth angenrheidiol i'w defnyddio yn ystod cyfarfodydd â chleientiaid
  7. Paratoi gwybodaeth ar gyfer cleientiaid sy'n glir ac yn berthnasol i'w hanghenion
  8. Monitro llif busnes a nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu pellach
  9. Monitro apwyntiadau yn y dyddiadur, a nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu pellach
  10. Gweithredu a chynnal systemau gweinyddiaeth swyddfa
  11. Cynnal cofnodion wedi eu diweddaru, yn unol â gofynion eich sefydliad
  12. Cadarnhau eich dealltwriaeth o flaenoriaethau busnes cyfredol trwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi a chydweithwyr priodol
  13. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda busnes newydd
  2. Terfynau eich awdurdod a'r cynnyrch a'r gwasanaethau y mae gennych awdurdod i'w trafod
  3. Yr wybodaeth sy'n ofynnol i baratoi dyfynbrisiau a darluniadau cymhleth
  4. Sut mae sicrhau dyfynbrisiau a darluniadau cymhleth
  5. Y camau y mae angen eu cymryd pan fo angen rhagor o wybodaeth
  6. Y mathau o ddogfennau sy'n ofynnol gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi fel rhan o gyfarfod â chleient
  7. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro llif busnes, sut mae dehongli'r wybodaeth hon, a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd
  8. Sut mae monitro addasrwydd apwyntiadau yn nyddiadur y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi, a'r camau gweithredu mae angen i chi eu cymryd
  9. Sut mae gweithredu a chynnal systemau gweinyddiaeth swyddfa cywir
  10. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
  11. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
  12. Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
  2. Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
  3. Rydych yn chwilio am ffyrdd o ddatrys problemau cymhleth
  4. Rydych yn cefnogi eraill i gyflawni amcanion cyffredin
  5. Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
  6. Rydych yn cyfeirio at gydweithwyr priodol, neu weithdrefnau eich sefydliad, os byddwch mewn amheuaeth

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPAMFPI04

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynnyrch ariannol; dyfynbrisiau; morgais; anfonebu; talu; prisiadau cleientiaid; swyddfa gefn; adroddiadau cleientiaid; systemau gweinyddol