Gosod plastr a rendrad taflunio, a chynnal a chadw cyfarpar

URN: COSVR70
Sectorau Busnes (Suites): Plastro (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, llwytho a gweithredu peirianwaith, gosod plastr a rendrad taflunio, a glanhau a chynnal y cyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol plastro a gall gweithwyr adeiladu, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
  3. dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
  4. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
  5. cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol

  6. cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn


*
Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

*

Meini Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau

K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

Meini Prawf Perfformiad 5
Diwallu manyleb y contract

K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau
K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser wedi'i ddyrannu

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau a chydrannau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, llwytho a gosod
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar chwistrellu plastro a rendro a chyfarpar cysylltiedig
9 paratoi, llwytho a gweithredu cyfarpar a gosod plastr ac/neu rendrad i arwynebau fertigol a llorweddol (mewnol ac/neu allanol) hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol
10 glanhau a chynnal a chadw cyfarpar plastro/rendro

Meini Prawf Perfformiad 6
11 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth
5 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

Cynnal a Chadw
7 defnyddio offer llaw, offer chwistrellu plastro a rendro a chyfarpar cysylltiedig

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 paratoi, llwytho a gweithredu cyfarpar plastro a rendro
8.2 rhoi plastr a rendrad ar arwynebau fertigol a llorweddol (mewnol ac/neu allanol)
8.3 glanhau a chynnal peiriant plastro a rendro
8.4 cydnabod a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.5 deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.6 defnyddio offer llaw, cyfarpar chwistrellu plastro a rendro a chyfarpar cysylltiedig
8.7 gweithio ar uchder
8.8 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r broses plastro a rendro taflunio

Problemau
11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 plastro a rendro taflunio
15.2 dŵr glân
15.3 defnyddio offer llaw, cyfarpar chwistrellu plastro a rendro a chyfarpar cysylltiedig
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod a gorffen plasteri a rendradau taflunio

Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR70

Galwedigaethau Perthnasol

Plastrwyr

Cod SOC

5321

Geiriau Allweddol

Peiriant-plastro; Chwistrellu-plastr; Arwynebau-fertigol; Plastro-nenfydau; Peiriant rendro, Plastr taflunio