Rhoi rendr soled ar arwynebau cefndirol a chynhyrchu gorffeniadau

URN: COSVR67
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu),Plastro (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu),Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau (Aml-grefft)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi deunyddiau, rhoi rendr soled ar gefndiroedd allanol a chynhyrchu gorffeniadau

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol plastro a gall gweithwyr adeiladu, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
  3. dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
  4. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
  5. cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol

  6. cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn


*
Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

*

Meini Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau

K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

Meini Prawf Perfformiad 5
Diwallu manyleb y contract

K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau
K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser wedi'i ddyrannu

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Meini Prawf Perfformiad 1
dehongli lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
1 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
1.1 dulliau gweithio
1.2 defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
1.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
1.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
1.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
2 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
2.1 deunyddiau
2.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4
3 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
4 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
5 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
6 arddangos sgiliau gwaith i fesur, amlinellu, gosod a gorffen
7 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
8 rhoi cotiau sylfaen, atgyfnerthu clytiau rhwyll a phwysau
9 paratoi arwynebau cefndirol, cymysgu a gosod rendr soled i gastiau clychau, onglau mewnol ac allanol, waliau, ciliau a bondoeau, ac i o leiaf un o'r arwynebau cefndirol dilynol hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol
9.1 bric
9.2 bloc
9.3 concrit
9.4 gwaith maen cerrig rwbel
9.5 llath metel estynedig (EML)
9.6 inswleiddio allanol
10 cynhyrchu haen orffen ag wyneb plaen i waliau allanol ac/neu inswleiddio allanol ynghyd ag o leiaf un o'r gorffeniadau dilynol i gyfarwyddiadau gweithio penodol
10.1 gro
10.2 cast garw (harling, gro gwlyb)
10.3 rendradau synthetig neu ansynthetig
10.4 wedi cyn-gastio priodol

Meini Prawf Perfformiad 6
11 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth
5 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

Cynnal a Chadw
7 gofal gweithredol o offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 i gynnal gwiriadau cyn-osod i gynnwys cyfanrwydd strwythurol, lleithder, fentiau, gwasanaethau (nwy, trydan, dŵr, ceblau cyfryngau)
8.2 i gymysgu rendrad hyd at y cryfder gofynnol ar gyfer arwynebau cefndirol a gosodiadau ategol
8.3 i baratoi arwynebau cefndirol
8.4 i adnabod y gweithdrefnau i wirio ffliwiau a gwyntyllu aer hylosgi
8.5 i ddeall goblygiadau gwarantau a gwarantiadau presennol
8.6 i roi cotiau sylfaen, atgyfnerthu clytiau rhwyll a phwysau
8.7 i roi rendradau haenau lluosog ar waliau allanol ac inswleiddio allanol
8.8 i ffurfio onglau, ciliau, bondoeau, cymalau ehangu a chastiau clychau
8.9 i leoli, sicrhau a gosod rendradau i llath metel estynedig (EML)
8.10 i osod gro, haen wyneb plaen, cast garw (harling, gro gwlyb), rendradau synthetig ac ansynthetig a gorffeniadau a selwyr priodol wedi'u castio ymlaen llaw ar arwynebau allanol ac inswleiddio allanol gan gynnwys ciliau drysau a ffenestri
8.11 i wneud gwiriadau ôl-osod: cydymffurfio â manylebau, gwrthsefyll treiddiad dŵr, angori/gosod, fentiau, gwasanaethau (nwy, trydan, dŵr, ceblau cyfryngau)
8.12 i gydnabod a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.13 deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.14 i ddefnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
8.15 i weithio ar uchder
8.16 i ddefnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â rendro

Problemau
11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 rendrad, tywod, calch, sment ac ychwanegion
15.2 castiau clychau a gleiniau, llath metel estynedig (EML)
15.3 gro, cast garw (harling, gro gwlyb), gorffeniad priodol wedi'i cyn-gastio, rendradau synthetig ac ansynthetig
15.4 atgyfnerthu, clytiau pwysau, selwyr, gosodiadau a ffitiadau
15.5 offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod rendrad soled allanol i arwynebau cefndirol a chynhyrchu gorffeniadau

Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR67

Galwedigaethau Perthnasol

Plastrwyr

Cod SOC

5321

Geiriau Allweddol

Rendradau; Castiau clychau; Haen luosog; Rendradau cymysgu; llath metel estynedig; Cymalau-ehangu; Gosod-rendradau; Onglau-mewnol; Onglau-allanol; Gorffeniadau gro; Cast garw