Codi cladin gwaith maen

URN: COSVR42W
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach a diogel, dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a pharatoi a chodi bricwaith a blocwaith a/neu ddeunyddiau lleol ar gyfer strwythurau a godwyd ymlaen llaw


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1   Dehongli’r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â’r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2   Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith iach a diogel
P3   Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P4   Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau’r risg o ddifrod i’r gwaith a’r ardal o amgylch
P5   Cydymffurfio â’r wybodaeth gontract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i’r fanyleb ofynnol
P6   Cwblhau’r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â’r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

G1   Y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i wneud adroddiad am a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut i’w gweithredu
G2   Y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
G3   Y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau gyda’r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

G4   Lefel y ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, cyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w defnyddio
G5   Sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
G6   Y gweithdrefnau diogelu sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
G7   Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy’n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G8   Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

Maen Prawf Perfformiad 3

Dethol adnoddau

G9   Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yn gysylltiedig gyda’r adnoddau a sut y dylid unioni diffygion
G10   Sut y dylid defnyddio’r adnoddau a sut i wneud adroddiad am unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda’r adnoddau
G11   Y gweithdrefnau sefydliadol i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
G12   Y peryglon yn gysylltiedig gyda’r adnoddau a’r dulliau gwaith a sut i’w goresgyn

Maen Prawf Perfformiad 4

Lleihau’r risg o ddifrod

G13   Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G14   Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hynny

Maen Prawf Perfformiad 5

Cyflawni manyleb y contract

G15   Sut i wneud dulliau gwaith i gyflawni’r fanyleb, a gwneud adroddiad am broblemau
G16   Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6

Amser a glustnodwyd

G17   Beth yw’r rhaglen ar gyfer y gwaith i gael ei wneud, yr amser a amcangyfrifwyd ac a glustnodwyd a pham y dylid cadw at amserlenni


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Maen Prawf Perfformiad 1

1   Dehongli darluniadau, asesiadau risg, datganiadau dull, manylebion, rhestri a gwybodaeth gwneuthurwyr yn cyfeirio at y gwaith i gael ei wneud

Maen Prawf Perfformiad 2

2   Osgoi risg drwy gydymffurfio â’r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â’r dilynol:
2.1   dulliau gwaith
2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4   defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5   risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3

3   Dethol adnoddau yn gysylltiedig â’ch gwaith eich hun:
3.1   deunyddiau, cydrannau a gosodion
3.2   offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 4

4   Diogelu’r gwaith a’r ardal o amgylch rhag difrod
5   Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
6   Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth

Maen Prawf Perfformiad 5

7   Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, gosod, lleoli a diogelu
8   Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9   Codi bric a bloc a/neu gladin deunydd lleol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd, gan gynnwys ffurfio agoriadau drws a ffenestr a gorffeniadau uniad, ar gyfer o leiaf un o’r strwythurau dilynol:
9.1   ffrâm bren a godwyd ymlaen llaw
9.2   concrit a godwyd ymlaen llaw
9.3   dur a godwyd ymlaen llaw
9.4   presennol

Maen Prawf Perfformiad 6

10   Cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amcangyfrif o amser a glustnodwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cwsmer


Gwybodaeth Cwmpas

Cael gwared â gwastraff

1   Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2   Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â chaniatâd sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â:
2.1   tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2   argyfyngau’n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3   Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4   Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a diben pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1   mesurau diogelu torfol
4.2   cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4   awyriad ecsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth

5   Darluniadau, manylebion, asesiadau risg, datganiadau dull, rhestri, gwybodaeth gwneuthurwyr a rheoliadau’n ymwneud â llywodraethu adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6   Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r gweithiwr am ddamweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw ac yn fecanyddol

Cynnal-a-chadw

7   Gofal y gweithiwr o offer llaw a/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gwaith

8   Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith iach a diogel, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â’r dull/ardal waith a’r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1   codi cladin bric, traddodiadol a bloc uniad tenau i strwythurau ffrâm bren, concrit, dur a strwythurau presennol
8.2   rhoi cladin ar strwythurau yn defnyddio deunyddiau lleol
8.3   gosod briciau, blociau (traddodiadol ac uniad tenau)
8.4   ffurfio gorffeniadau uniad
8.5   ffurfio agoriadau ar gyfer drysau a ffenestri
8.6   ategu a chynnal strwythurau
8.7   cwblhau a symud strwythurau dros dro
8.8   lleoli rhwystrau atal lleithder
8.9   cymysgu morter
8.10   defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.11   gweithio gydag offer a pheiriannau
8.12   gweithio ar uchder
8.13   defnyddio cyfarpar mynediad
9   Gwaith tîm a chyfathrebu
10   Anghenion galwedigaethau eraill yn gysylltiedig â chodi cladin gwaith maen

Problemau

11   Problemau’n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith:
11.1   eich awdurdod eich hun i unioni
11.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12   Mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amser
13   Gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau am amgylchiadau fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14   Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol

Adnoddau

15   Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol y dilynol:
15.1   Briciau, blociau, morter, fframiau, inswleiddiad, rhwystrau atal lleithder, lintel, gosodion a chlymau
15.2   offer llaw a/neu bŵer a chyfarpar
16   Dulliau o gyfrif pellterau, swm, hyd, arwynebedd  a gwastraff yn gysylltiedig gyda’r dull/gweithdrefn i godi cladin gwaith maen

Trefniadau diogelwch

17   Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

VR42

Galwedigaethau Perthnasol

Bricwyr a Seiri maen

Cod SOC

5312

Geiriau Allweddol

Bricwaith; Blocwaith; Crwyn atal lleithder (DPM); Morter; Gorffeniadau uniad