Gosod briciau a blociau i lein

URN: COSVR37W
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach a diogel, dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a gosod briciau a blociau i lein a ffurfio gorffeniad uniad


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1   Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith iach a diogel
P2   Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P3   Cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau’r risg o ddifrod i’r gwaith a’r ardal o amgylch
P4   Cydymffurfio â’r wybodaeth gontract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i’r fanyleb ofynnol
P5   Cwblhau’r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â’r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​**Maen Prawf Perfformiad 1

*Arferion gwaith diogel
*

G1   Y mathau o *wybodaeth

G2   Lefel y ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei chael am ddeddfwriaeth berthnasol, cyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w defnyddio
G3   Sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
G4   Gweithdrefnau diogelu’r sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
G5   Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy’n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G6   Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
*

*Maen Prawf Perfformiad 2
*

*Dethol adnoddau
*

G7   Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yn gysylltiedig gyda’r *adnoddau

G8   Sut y dylid defnyddio’r adnoddau a sut yr adroddir ar unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda’r adnoddau
G9   Y peryglon yn gysylltiedig gyda’r adnoddau a’r dulliau gwaith
*

**Maen Prawf Perfformiad 3

Lleihau’r risg o ddifrod

G10   Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G11   Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel

Maen Prawf Perfformiad 4

Gwybodaeth gontract a roddwyd

G12   Sut y gwneir y dulliau gwaith a gwneud adroddiad am broblemau
G13   Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 5

Amser a glustnodwyd

G14   Beth yw’r rhaglen ar gyfer y gwaith i’w wneud a pham y dylid cadw at amserlenni


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Maen Prawf Perfformiad 1

1   Osgoi risg drwy gydymffurfio â’r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â’r dilynol
1.1   dulliau gwaith
1.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
1.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
1.4   defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
1.5   risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 2

2   Dethol adnoddau yn gysylltiedig â’ch gwaith eich hun
2.1   deunyddiau a chydrannau
2.2   offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 3

3   Diogelu’r gwaith a’r ardal o amgylch rhag difrod
4   Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
5   Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth

Maen Prawf Perfformiad 4

6   Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan a gosod
7   Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw
8   Gosod y dilynol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd:
8.1   bricwaith (i lein yn unig ac â gorffeniad uniad yn unol â gofyn)
8.2   blociau traddodiadol a/neu wely tenau (i lein yn unig ac â gorffeniad uniad yn unol â gofyn)

Maen Prawf Perfformiad 5

9   Cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser a ganiateir


Gwybodaeth Cwmpas

*​Cael gwared â gwastraff
*

1   Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2   Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â chaniatâd sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1   tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2   argyfyngau’n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3   Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4   Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a diben pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1   mesurau diogelu torfol
4.2   cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4   awyriad ecsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth

5   Gwybodaeth gwneuthurwyr, llafar/ysgrifenedig a brasluniau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6   Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r gweithiwr am ddamweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw ac yn fecanyddol

Cynnal-a-chadw

7   Gofal y gweithiwr o offer llaw a chyfarpar ategol

Dulliau gwaith

8   Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith iach a diogel, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â’r dull/ardal waith a’r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1   gosod briciau cyffredin ac wynebu a blociau traddodiadol ac uniad tenau i lein 
8.2   gosod cyrsiau a chrwyn atal lleithder (tancio, crwyn gwrth-nwy)
8.3   ffurfio gorffeniad uniad 
8.4   defnyddio offer llaw a chyfarpar
8.5   gweithio ag offer a pheiriannau
8.6   gweithio ar uchder
8.7   defnyddio cyfarpar mynediad
9   Gwaith tîm a chyfathrebu
10  Anghenion galwedigaethau eraill yn gysylltiedig â gosod briciau a blociau i lein

Problemau

11  Problemau’n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith
11.1  eich awdurdod eich hun i unioni
11.2  gweithdrefnau adrodd sefydliadol

Rhaglen

12  Amserau a gytunwyd ar gyfer cychwyn a gorffen

Diogelu gwaith

13  Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol

Adnoddau

14  Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol y dilynol:
14.1  briciau, blociau, morter, cymysgeddau uniad tenau, clymau wal, Cwrs atal lleithder (DPC), Croen atal lleithder (DPM), Inswleiddiad waliau ceudod
14.2  offer llaw a chyfarpar
15  Dulliau o gyfrif swm, hyd, arwynebedd, a gwastraff yn gysylltiedig gyda’r dull/gweithdrefn i osod briciau a blociau i lein

Trefniadau diogelwch

16  Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

VR37

Galwedigaethau Perthnasol

Bricwyr a Seiri maen

Cod SOC

5312

Geiriau Allweddol

Briciau cyffredin; Briciau wynebu; Cwrs atal lleithder (DPC); Croen atal lleithder (DPM); Uniad tenau; Morter; Clymau wal; Gorffeniad uniad