Cadarnhau gweithgareddau gwaith ac adnoddau ar gyfer y gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon, yng nghyd-destun eich galwedigaeth a'ch amgylchedd gwaith, yn ymwneud â
- nodi eich gweithgareddau gwaith eich hun
- mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach
- nodi adnoddau i wneud y gwaith
- cadarnhau rhaglen waith/amserlen ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud yn eich maes galwedigaethol eich hun
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 nodi'r gweithgareddau gwaith ac asesu'r adnoddau sydd eu hangen o'r wybodaeth sydd ar gael a chynllunio trefn y gwaith
P2 cael eglurhad a chyngor lle nad yw'r adnoddau sydd eu hangen ar gael
P3 gwerthuso'r gweithgareddau gwaith yn ôl gofynion y prosiect a gofynion unrhyw ffactorau allanol pwysig
P4 nodi gweithgareddau gwaith sy'n dylanwadu ar ei gilydd a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael
P5 nodi amgylchiadau sydd wedi newid a fydd yn galw am newid y rhaglen waith a chyfiawnhau unrhyw newidiadau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Trefn y gwaith
K1 sut i nodi'r gweithgareddau gwaith
K2 sut i asesu'r adnoddau sydd eu hangen o'r wybodaeth sydd ar gael
K3 sut i baratoi rhaglen waith
Meini Prawf Perfformiad 2
Eglurhad a chyngor ar yr adnoddau
K4 sut i gael eglurhad a chyngor lle nad yw'r adnoddau sydd eu hangen ar gael
Meini Prawf Perfformiad 3
Gofynion y prosiect a ffactorau allanol
K5 sut i werthuso'r gweithgareddau gwaith yn ôl gofynion y prosiect a gofynion ffactorau allanol pwysig
Meini Prawf Perfformiad 4
Gweithgareddau gwaith
K6 sut i nodi’r gweithgareddau gwaith sy'n dylanwadu ar ei gilydd
K7 sut i benderfynu faint o amser y bydd pob gweithgaredd gwaith yn ei gymryd a threfn y gweithgareddau
K8 sut y gall gweithgareddau gwaith a'r defnydd o adnoddau effeithio ar ofynion di-garbon a charbon isel
Meini Prawf Perfformiad 5
Newidiadau i'r rhaglen waith
K9 sut i nodi newidiadau i'r rhaglen waith oherwydd amgylchiadau sydd wedi newid
K10 sut i asesu effaith newidiadau i’r rhaglen waith ar y contract/gwaith
K11 sut i gyfiawnhau effaith newidiadau i’r rhaglen waith i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 cofnod(ion) o’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith mewn perthynas â
1.1 galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith
1.2 offer, peiriannau a/neu gyfarpar ategol
1.3 deunyddiau a chydrannau
2 llunio eich cynllun eich hun ar gyfer trefn y gwaith
Meini Prawf Perfformiad 2
3 cofnod(ion) sy’n cadarnhau ac yn rhoi gwybod pa adnoddau sydd ar gael, neu ba adnoddau nad ydynt ar gael, ar gyfer y gwaith
Meini Prawf Perfformiad 3
4 cofnod(ion) o ofynion y prosiect
5 ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar y gwaith mewn perthynas â
5.1 galwedigaethau eraill a/neu gwsmeriaid
5.2 adnoddau
5.3 tywydd
5.4 gofynion iechyd a diogelwch
Meini Prawf Perfformiad 4
6 cofnod(ion) o weithgareddau sy'n dylanwadu ar ei gilydd a'r defnydd gorau o adnoddau
6.1 galwedigaethau eraill a/neu gwsmeriaid
6.2 deunyddiau a chydrannau
6.3 offer, peiriannau a/neu gyfarpar ategol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 cofnod(ion) o'r newidiadau arfaethedig i'r gwaith a'r amgylchiadau i'w cyfiawnhau
8 hysbysu rheolwyr llinell a/neu'r cwsmer o'r newidiadau sydd eu hangen
Gwybodaeth Cwmpas
Eglurhad a chyngor
1 gan y cwsmer/cynrychiolydd y cwsmer
2 o wybodaeth dechnegol y gweithgynhyrchydd
3 o lenyddiaeth ar grefft
4 o weithdrefnau’r sefydliad
Gwerthuso
5 trwy astudiaeth waith
6 trwy asesiad risg
Ffactorau allanol
7 rhaglenni cysylltiedig eraill
8 amgylchiadau gweithio arbennig
9 tywydd
10 galwedigaethau/pobl eraill
11 adnoddau
12 gofynion iechyd a diogelwch
Rhaglen
13 dogfennaeth sy'n ymwneud â'r gofynion dilynol a/neu sy'n benodol i alwedigaeth
13.1 rhestrau gweithredu
13.2 datganiadau dull
13.3 hyd
13.4 amserlenni
Gofynion y prosiect
14 amodau’r contract
15 gofynion y contract ar gyfer y rhaglen
16 gofynion iechyd a diogelwch gweithwyr
Adnoddau
17 galwedigaethau/pobl eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith
18 offer, peiriannau a/neu gyfarpar ategol
19 deunyddiau a chydrannau
20 ymwybyddiaeth o ofynion di-garbon a charbon isel a'r ffordd y gellir defnyddio adnoddau i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd