Monitro dosau ymbelydredd yn ystod gwaith ymbelydredd

URN: COGTRM17
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw monitro dosau ymbelydredd yn ystod gwaith penodol. Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud, a lefel y cysylltiad posibl ag ymbelydredd, monitro’r dosau ymbelydredd a gaiff gweithwyr, cymharu'r dosau a dderbynnir â’r lefelau disgwyliedig, a diweddaru gwybodaeth am ddosimetreg.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Monitro dosau ymbelydredd yn ystod gwaith ymbelydredd

Gall deunydd ymbelydrol achosi niwed i bobl, eiddo a’r amgylchedd, felly mae’n hollbwysig eich bod yn cymryd pob cam diogelu sy’n angenrheidiol.

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried yr arferion gweithio diogel a'r gofynion gweithredol perthnasol FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N219 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael gwybodaeth am y math o waith ymbelydredd sy’n cael ei wneud, a lefel a chyfradd bosibl y cysylltiad â deunyddiau ymbelydrol
P2 cadarnhau'r dos o ymbelydredd a’r terfynau cysylltiad ag ymbelydredd sy'n dderbyniol ar gyfer y bobl sy’n gwneud y gwaith ymbelydredd
P3 dewis systemau addas ar gyfer monitro’r dos o ymbelydredd a gaiff y bobl sy’n gwneud y gwaith ymbelydredd
P4 monitro’r dos a gaiff y bobl sy’n gwneud y gwaith ymbelydredd, drwy ddefnyddio’r systemau priodol
P5 sicrhau bod unrhyw broblemau o ran monitro dosau ymbelydredd yn cael eu canfod a’u datrys ar unwaith
P6 cymharu’r dos mae pobl yn ei gael â’r dos disgwyliedig, ac ymchwilio i unrhyw wahaniaethau annisgwyl
P7 sicrhau bod yr holl systemau perthnasol ar gyfer dosimetreg yn cael eu diweddaru gyda gwybodaeth am y dosau y mae'r bobl sy’n gwneud y gwaith ymbelydredd yn eu cael
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 asesiadau dosimetreg
K2 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 cyfarpar monitro ymbelydredd
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth Ychwanegol

Geirfa             Geiriau Allweddol
1. Peryglon
2. Iechyd
3. Radiolegol
4. Dos
5. Ïoneiddio
6. Niwclear
7. Diogelwch


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

TRM17

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

31114

Geiriau Allweddol

monitro, ymbelydredd, dosau, cysylltiad, lefelau, diweddaru, gwaith, gweithgareddau, peryglon, iechyd, radiolegol, dos, ïoneiddio, niwclear, diogelwch