Rheoli cyllidebau ar gyfer prosiectau bioweithgynhyrchu

URN: COGSCIM4_16
Sectorau Busnes (Suites): Cyfres Gweithgynhyrchu Gwyddonol 4 2009
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymwyseddau y bydd eu hangen arnoch i reoli cyllidebau prosiectau bioweithgynhyrchu, yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy. Bydd angen i’ch gwaith ddilyn y gweithdrefnau gweithredu safonol, y ddeddfwriaeth a’r polisïau sefydliadol perthnasol, a dilyn Ymarfer Gweithgynhyrchu Da (GMP). Bydd angen i chi hefyd gyflwyno cofnodion a manylion am eich gwaith bioweithgynhyrchu i’r bobl briodol.

Bydd eich cyfrifoldebau’n golygu y bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol i reoli cyllidebau gweithgarwch bioweithgynhyrchu, ac i roi gwybod i’r awdurdod perthnasol am unrhyw broblemau na allwch eu datrys eich hun.

Bydd eich gwybodaeth sylfaenol yn cynnwys dealltwriaeth dda o egwyddorion a phrosesau datblygu bioweithgynhyrchu cyffredinol a phenodol, a byddwch hefyd yn gwbl gyfarwydd â gweithdrefnau a systemau sefydliadol. Bydd angen i chi hysbysu’r bobl berthnasol o unrhyw broblemau gyda'r gweithgarwch bioweithgynhyrchu na allwch eu datrys yn bersonol, neu sydd y tu allan i’ch awdurdod.

Bydd eich gwybodaeth sylfaenol yn ddigon i fod yn sail gadarn i’ch gwaith, a bydd yn eich galluogi i fabwysiadu dull o ddatrys problemau sy’n seiliedig ar wybodaeth i reoli cyllideb prosiectau bioweithgynhyrchu, yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy. Bydd gennych ddealltwriaeth o’r dulliau a’r egwyddorion gweithgynhyrchu rheoli cyllidebau ar gyfer prosiectau bioweithgynhyrchu  a ddefnyddir, gyda digon o fanylder i gael cefndir digon cadarn i gyflawni gweithgarwch bioweithgynhyrchu’n ôl y fanyleb ofynnol.

Byddwch yn deall y rhagofalon diogelwch gofynnol wrth ymgymryd â gweithgarwch bioweithgynhyrchu ar gyfer gweithrediadau a phrosesau gwyddonol. Bydd angen i chi ddangos arferion gweithio diogel gydol yr amser, a byddwch yn ymwybodol o’ch cyfrifoldeb am gymryd y mesurau diogelwch angenrheidiol i amddiffyn eich hun ac eraill yn y gweithle.

Mae’r gweithgarwch hwn yn debygol o gael ei gyflawni gan rywun y mae ei rôl yn y gwaith yn cynnwys gweithgareddau gweithgynhyrchu Gwyddoniaeth/Bio. Gallai hyn gynnwys unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau canlynol: Cemegol, Fferyllol a Gwyddorau Bywyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol
P2 gwisgo’r cyfarpar diogelwch personol wrth weithio yn yr amgylchedd bioweithgynhyrchu
P3 gwerthuso’r wybodaeth sydd ar gael ac ymgynghori ag eraill i baratoi cyllideb realistig ar gyfer y maes gwaith neu’r gweithgarwch dan sylw
P4 cyflwyno’r gyllideb arfaethedig i’r bobl berthnasol yn y sefydliad i’w chymeradwyo ac i helpu â’r broses cynllunio arian yn gyffredinol
P5 trafod ac, os yn briodol, negodi’r gyllideb arfaethedig â’r bobl berthnasol yn y sefydliad a chytuno ar y gyllideb derfynol
P6 defnyddio’r gyllideb y cytunwyd arni i fonitro a rheoli perfformiad yn y maes gwaith neu’r gweithgarwch dan sylw
P7 canfod achos unrhyw amrywiadau arwyddocaol rhwng yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb a’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, a chymryd camau prydlon i’w gywiro, cael cytundeb y bobl berthnasol os oes angen
P8 cynnig diwygiadau i’r gyllideb, os bydd angen, mewn ymateb i amrywiadau a/neu ddatblygiadau arwyddocaol neu nad oedd wedi’u rhagweld, a thrafod a chytuno ar y diwygiadau â’r bobl berthnasol yn y sefydliad
P9 darparu gwybodaeth yn barhaus ar berfformiad yn erbyn y gyllideb, i bobl berthnasol yn eich sefydliad
P10 cynghori’r bobl berthnasol cyn gynted â phosibl os oes gennych dystiolaeth o weithgarwch twyllodrus posibl
P11 casglu gwybodaeth yn sgil gweithredu’r gyllideb i helpu i baratoi cyllidebau yn y dyfodol
P12 rhannu’r wybodaeth ofynnol am y gwaith a wnaed, ag uwch reolwyr a phobl awdurdodedig eraill, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​K1 gofynion iechyd a diogelwch y maes lle’r ydych yn cyflawni’r gweithgarwch bioweithgynhyrchu
K2 goblygiadau peidio â chydymffurfio â deddfwriaeth, rheoliadau, safonau a chanllawiau wrth ymgymryd â gweithgarwch bioamrywiaeth
K3 y gweithdrefnau gweithredu safonol, fel y nodwyd mewn llawlyfrau gweithredu bioweithgynhyrchu lleol
K4 pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau gweithredu gweithgynhyrchwyr cyfarpar
K5 egwyddorion Arferion Gweithgynhyrchu Da (GMP) yn cael eu gweithredu yn y gweithle
K6 pwysigrwydd gwisgo dillad diogelwch, menig, ac amddiffyn y llygaid wrth drafod deunyddiau (gan gynnwys sylweddau biocemegol, pathogenau biolegol/neu antigenau), a’r cyfarpar a ddefnyddir i’w cyfyngu a’u prosesu
K7 y cynnyrch wedi’i weithgynhyrchu ac olrhain swp-brosesu a system gofnodi
K8 y mathau o system trafod a didol, a’r gweithdrefnau a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu prosesu yn y cyfleusterau gweithgynhyrchu
K9 pwysigrwydd adnabyddiaeth gywir, ac unrhyw rifau sefydliadol a gweithgynhyrchu unigryw
K10 y gofynion sefydliadol ar gyfer sicrhau diogelwch y gweithle
K11 y sianelau cyfathrebu a’r cyfrifoldebau yn eich adran, a’u cysylltiadau â gweddill y sefydliad
K12 terfynau eich awdurdod a phwy ddylech eu hysbysu os oes problemau na allwch eu datrys
K13 gofynion eich sefydliad o ran cofnodi ac archifo adroddiadau, a’r defnydd o godau adnabod unigryw
K14 dibenion systemau cyllidebu
K15 lle mae cael gafael ar a sut i werthuso’r wybodaeth sydd ar gael er mwyn paratoi cyllideb realistig
K16 pwysigrwydd treulio amser ac ymgynghori ag eraill wrth baratoi cyllideb
K17 sut mae trafod, negodi a chadarnhau cyllideb â phobl sy’n rheoli’r cyllid, a’r ffactorau allweddol a ddylai gael sylw
K18 sut mae defnyddio cyllideb i fonitro a rheoli perfformiad ar gyfer maes gwaith neu weithgarwch penodol
K19 prif achosion amrywiadau, a sut i’w canfod
K20 y gwahanol fathau o gamau cywiro y gellid eu cymryd i roi sylw i amrywiadau a ganfyddir
K21 sut y gall datblygiadau na chafodd eu rhagweld effeithio ar gyllideb, a sut i ddelio â hwy
K22 pwysigrwydd cytuno ar ddiwygiadau i’r gyllideb a rhannu’r newidiadau hyn
K23 pwysigrwydd rhannu gwybodaeth yn rheolaidd, ar berfformiad yn erbyn y gyllideb, â phobl eraill
K24 mathau o weithgarwch twyllodrus, a sut i’w canfod
K25 pwysigrwydd defnyddio gweithredu’r gyllideb i ganfod gwybodaeth a gwersi ar gyfer paratoi cyllidebau’r dyfodol


Cwmpas/ystod

1. rheoli cyllidebau ar gyfer pob un o’r gweithgareddau canlynol:
1.1. gwariant cronnus vs gwariant gwirioneddol prosiect
1.2. llif arian y prosiect
1.3. costau tîm y prosiect
1.4. costau cyfarpar y prosiect
1.5. costau adnoddau’r prosiect
1.6. arall (rhowch fanylion)

2. cytuno ar gyllidebau â dau o’r canlynol:
2.1. cydweithwyr yn eich grŵp gwaith eich hun
2.2. goruchwylwyr/rheolwyr
2.3. uwch weithwyr proffesiynol/gwyddonwyr uwch
2.4. cydweithwyr o’r tu allan i’r grŵp gwaith arferol
2.5. pobl o’r tu allan i’ch sefydliad

3. cofnodi manylion eich gwaith prosiect, a rhannu’r manylion â’r bobl briodol, gan ddefnyddio:
3.1. adroddiad llafar
Ynghyd ag un dull o blith y canlynol:
3.2. adroddiad ysgrifenedig neu wedi’i deipio
3.3. dogfennaeth benodol y cwmni
3.4. cofnod ar gyfrifiadur
3.5. e-bost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

COGSCIM4_16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Technegwyr Gwyddonol a Pheirianyddol, Gwyddoniaeth a mathemateg Gwyddoniaeth, Peirianegol a thechnolegau gweithgynhyrchu, Technolegau gweithgynhyrchu

Cod SOC

2112

Geiriau Allweddol

cynhyrchu; cyllidebau; rheoli; gweithgynhyrchu; bioweithgynhyrchu; gwyddoniaeth