Sicrhau cydymffurfiaeth ac ymateb i broblemau neu wyro oddi wrth safonau neu ymarfer gorau mewn Amgylchedd Gwyddorau Bywyd

URN: COGREG-06
Sectorau Busnes (Suites): Cydymffurfiaeth Reoleiddiol ym maes Gwyddorau Bywyd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 01 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cymwyseddau sydd eu hangen arnoch i gefnogi gweithrediadau busnes. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod cwynion, problemau a diffyg cydymffurfio yn cael eu trin yn effeithiol er mwyn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth statudol y DU a Chyfarwyddebau'r UE a gofynion rheoleiddiol a thrwyddedu safleoedd yn unol ag Ymarfer Gweithgynhyrchu Da (GMP).

Bydd yn ofynnol i chi gefnogi camau i ddatrys diffyg cydymffurfiaeth, neu wyro oddi wrth safon neu ymarfer gorau, cofnodi, cydweithio a chyfathrebu'n allanol â'r rheoleiddwyr ac yn fewnol â rheolwyr busnes o ganlyniad i broblemau neu gwynion.

Mae'r safon hon wedi'i datblygu ar gyfer unigolion sy'n gyfrifol am weithgareddau rheoleiddiol wrth weithio yn y sector gwyddorau bywyd. Rydych yn gyfrifol, gydag aelodau eraill y timau rheoleiddiol ac ansawdd, am sicrhau bod yr holl weithrediadau a gweithdrefnau'n cael eu prosesu a'u cynnal yn unol â gofynion diogelwch data, rheoleiddiol, a thrwyddedau safleoedd a chynhyrchion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â gweithdrefnau a dogfennaeth sefydliadol ar gyfer problemau sy'n ymwneud â diffyg cydymffurfio
  2. gweithio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ac ymarfer gorau er mwyn gwneud gwaith cywiro neu ataliol
  3. ystyried problemau cydymffurfio hanesyddol er mwyn paratoi strategaethau newydd a gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs) i atal problemau rhag digwydd eto
  4. sicrhau bod prosesau dilysu ar waith ac yn cael eu monitro a'u hadolygu'n briodol yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs)
  5. cynnal prosesau monitro arferol a gofynion archwilio fel y nodir yn y gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs) ac yn unol ag ymarfer gweithgynhyrchu da
  6. cadw a chynnal ansawdd da a chofnodion cydymffurfio
  7. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu neu brofi yn gweithio'n gywir ac yn ddiogel
  8. sicrhau bod proses briodol ar waith ar gyfer codi'r mater ar lefel uwch er mwyn ystyried camau cywiro ac atal y tu hwnt i'r meysydd yr ydych yn gyfrifol amdanynt
  9. nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio â safonau perthnasol neu wyro oddi wrth weithdrefnau cymeradwy
  10. rhoi gwybod i'r bobl neu'r adran briodol am achosion o ddiffyg cydymffurfio â safonau perthnasol neu wyro oddi wrth weithdrefnau cymeradwy er mwyn iddynt gymryd camau pellach
  11. cymryd camau cywiro neu atal priodol mewn ymateb i broblemau o ran cydymffurfio
  12. cyfathrebu'n briodol o fewn a/neu'r tu allan i'r sefydliad am unrhyw gamau cywiro a/neu atal mewn ymateb i broblemau o ran cydymffurfio
  13. monitro gwaith gwella cydymffurfiaeth drwy arolygu, cyfarfodydd a gohebiaeth
  14. datblygu sianeli cyfathrebu gyda thimau mewnol a grwpiau rheoleiddiol allanol, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu Arolygiadau (IAG) er mwyn mynd i'r afael yn gyflym â phroblemau a diffyg cydymffurfio
  15. cefnogi'r gwaith o ddatblygu ymarfer da, gan gynnwys helpu i ysgrifennu gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs) er mwyn cynnal systemau ansawdd a chydymffurfio â rheoliadau
  16. cynllunio a chynnal archwiliadau ac arolygiadau rheolaidd o systemau, prosesau a gweithdrefnau
  17. cefnogi'r broses archwilio a gynhelir gan gyrff allanol, gan gynnwys yr arolygydd rheoleiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. amgylchedd rheoleiddiol gwyddorau bywyd y mae'r sefydliad yn gweithredu ynddo
  2. egwyddorion Ymarfer Gweithgynhyrchu Da a chanllawiau a safonau cysylltiedig
  3. Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) perthnasol y sefydliad sy'n ymwneud â chydymffurfio, rheoli ansawdd a gofynion rheoleiddiol
  4. eich cyfrifoldebau personol a'ch atebolrwydd
  5. y wybodaeth a'r arbenigedd gwyddonol sy'n ymwneud â rhoi gwybod i'r Awdurdod Marchnata (MA) am gynhyrchion a/neu brosesau nad ydynt yn cydymffurfio
  6. y rheoliadau sydd ar waith ar hyn o bryd a sut i fod yn ymwybodol o'r amgylchedd rheoleiddiol diweddaraf
  7. egwyddorion datrys problemau a gallu datrys problemau neu eu codi gyda'r bobl briodol
  8. fformatau a dulliau hysbysu awdurdodau rheoleiddiol am ddiffyg cydymffurfio, gan gynnwys systemau papur ac electronig
  9. sut a ble i gyfathrebu â'r sefydliadau allanol, y rheoleiddiwr, yr Awdurdod Marchnata a rhanddeiliaid eraill os oes problemau neu achosion o beidio â chydymffurfio
  10. sut i ddadansoddi, coladu a pharatoi data a gwybodaeth er mwyn ysgrifennu adroddiadau technegol a'u cyflwyno
  11. sut i ystyried problemau blaenorol o ran cydymffurfio a sut i baratoi gweithdrefnau a strategaethau newydd er mwyn atal y rhain rhag digwydd eto.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Camau atal: dileu'r hyn sy'n achosi enghreifftiau posibl o ddiffyg cydymffurfio neu sefyllfa bosibl arall i'w hosgoi

  • Mae mwy nag un peth yn gallu achosi sefyllfa bosibl o ddiffyg cydymffurfio.
  • Cymerir camau atal i atal rhywbeth rhag digwydd, tra bod camau cywiro'n cael eu cymryd i atal rhywbeth rhag digwydd eto.

Camau cywiro: dileu'r hyn sy'n achosi diffyg cydymffurfio neu sefyllfa arall i'w hosgoi

  • Mae mwy nag un peth yn gallu achosi diffyg cydymffurfio.
  • Cymerir camau cywiro i atal rhywbeth rhag digwydd fwy nag unwaith, tra bod camau atal yn cael eu cymryd i atal rhywbeth rhag digwydd yn y lle cyntaf.
  • Mae gwahaniaeth rhwng cywiriad a chamau cywiro

Cywiriad: dileu achos a nodwyd o ddiffyg cydymffurfio

  • Gellir gwneud cywiriad ochr yn ochr â chamau cywiro
  • Er enghraifft, gall cywiriad fod yn rhywbeth sydd wedi'i ail-wneud.

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

COGREG-06

Galwedigaethau Perthnasol

Gwyddorau, Gwyddorau a Mathemateg Gwyddorau, Gweithwyr Proffesiynol y Gwyddorau

Cod SOC

2119

Geiriau Allweddol

Cydymffurfiaeth, Rheoleiddiol, sicrhau ansawdd Gwyddorau Bywyd, rheoli ansawdd