Goruchwylio gwaith ymbelydredd

URN: COGN422
Sectorau Busnes (Suites): Datgomisiynu Niwclear
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r gallu sydd ei angen i oruchwylio gweithgareddau gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd.

Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

  1. Goruchwylio gwaith ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael gafael ar wybodaeth, dogfennaeth reoli ac asesiadau risg cywir, a'u deall o ran y gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd sy'n cael ei gyflawni
P2 sicrhau bod yr holl beryglon ymbelydredd yn cael eu nodi, a bod systemau diogelu rhag ymbelydredd yn cael eu rhoi ar waith yn gywir
P3 sicrhau bod y gweithgareddau gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd y gellir ymgymryd â nhw ac na ellir ymgymryd â nhw yn cael eu nodi, gan gynnwys y dulliau i'w defnyddio a'u hyd
P4 sicrhau bod cydweithwyr yn glir ynghylch eu rôl a'u cyfrifoldebau ar gyfer cyflawni'r gweithgareddau gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd
P5 nodi dulliau addas ar gyfer monitro'r gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd sy'n cael ei gynnal o fewn lefel eich cyfrifoldebau
P6 monitro'r gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd pan fo cyfleoedd addas ar gael
P7 gwirio bod y gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd yn cael ei gyflawni yn unol â'r dulliau penodedig, y mesurau ansawdd a'r canlyniadau
P8 nodi unrhyw welliannau posibl yn y ffordd y gellid cyflawni'r gwaith sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd
P9 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K2 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K3 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K4 systemau monitro ymbelydredd
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K9 systemau gwaith diogel
K10 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K11 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol
K12 dulliau goruchwylio a monitro


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N217

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Proffesiynol, Peiranneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg, Technolegau gweithgynhyrchu a pheirianneg

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

cydweithwyr, goruchwylio