Dadhalogi peirianwaith, strwythurau ac offer ar gyfer datgomisiynu

URN: COGN403
Sectorau Busnes (Suites): Datgomisiynu Niwclear
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sy'n ofynnol ar gyfer paratoi a dadhalogi, i'r lefelau gofynnol, lle gall yr eitemau a'r ardaloedd gynnwys: cydrannau i'w hail-ddefnyddio, offer, llawr adeiladu, ardaloedd wal ac eitemau wedi'u datgomisiynu ar y ffordd i'w gwaredu, ac ati.

Mae'r safon hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  1. Ymgymryd â gweithrediadau dadhalogi

Sylwer: Nid yw'r uned hon yn ymwneud â pharatoi cyfleusterau dadhalogi pwrpasol fel proses peirianwaith.

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW'N BERTHNASOL I CHI.

Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 cael cyfarwyddiadau clir a chyflawn ar y dulliau a'r lefelau dadhalogi sydd i'w cyflawni cyn i'r gwaith ddechrau
P3 cael y deunyddiau, yr offer, yr adnoddau a'r cyfarpar diogelu personol angenrheidiol a'u gwneud yn barod i'w defnyddio
P4 nodi'n glir ofynion delio a thrin gwastraff eilaidd a gynhyrchir gan y dull dadhalogi
P5 cymhwyso'r dull dadhalogi penodedig yn gywir er mwyn cyflawni'r canlyniadau gofynnol a lleihau lledaeniad halogiad
P6 cofnodi mesuriadau cywir o ymbelydredd ar adegau priodol i wirio cynnydd tuag at lefelau ymbelydredd gofynnol a'u cyflawni
P7 adrodd yn brydlon a datrys anawsterau gyda'r dull gwaith penodedig a lefelau gwastraff eilaidd i'r bobl berthnasol a gyda nhw
P8 cynnal a chadw cyfyngiant mewn cyflwr da bob amser
P9 monitro gweithrediad systemau cymorth yn barhaus ac ymateb i unrhyw larymau'n ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau penodedig
P10 gwahanu ac ymdrin â gwastraff eilaidd yn unol â chyfarwyddiadau penodedig a sicrhau bod yr ardal ddadhalogi yn cael ei chlirio i'r safon ofynnol ar ôl ei defnyddio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 y dogfennau a'r systemau rheoli mewnol
K2 sut i gael gafael a defnyddio deunydd, offer a chyfarpar
K3 defnyddio cyfarpar diogelu personol ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch a'r gwiriadau addasrwydd i'r diben sy'n angenrheidiol
K4 y pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth bennu gofynion delio a thrin gwastraff eilaidd a gynhyrchir gan wahanol ddulliau dadhalogi
K5 diffygion nodweddiadol yn yr wybodaeth, yr offer a'r cyfarpar a gafwyd, a phwy ddylai fod yn rhan o’r trafodaethau i'w datrys
K6 egwyddorion cynhyrchu ac osgoi gwastraff
K7 mathau o wastraff ymbelydrol a'r broses o’u gwahanu
K8 egwyddorion ymbelydredd a halogiad
K9 egwyddorion rheoli a phennu ffiniau ardaloedd gwaith
K10 egwyddorion lleihau risg
K11 dulliau a thechnegau dadhalogi
K12 sut i fesur ymbelydredd a nodi'r lefelau ymbelydredd gofynnol
K13 anawsterau nodweddiadol y gellir dod ar eu traws a phwy ddylai eu datrys
K14 sut i gynnal a chadw cyfyngiant mewn cyflwr da
K15 yr agweddau ar systemau cymorth personol ac amgylcheddol sy'n cael eu monitro
K16 y prif bwyntiau i'w hystyried wrth gyfuno gwastraff eilaidd a chlirio safleoedd dadhalogi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:

Offer
• Cludadwy
• Offer llaw
• Offer sydd ei angen i alluogi’r broses o reoli gwastraff ymbelydrol

Dulliau dadhalogi
• Golchi
• Sgrafelliad mecanyddol
• Gosod araenau

Systemau cymorth
• Systemau cymorth personol
• Larymau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N403

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Proffesiynol, Peiranneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg, Technolegau gweithgynhyrchu a pheirianneg

Cod SOC

vqwerbv

Geiriau Allweddol

offer, dadhalogi, cymorth