Datgymalu a thynnu peirianwaith, strwythurau ac offer halogedig a ddefnyddir mewn cyfleusterau niwclear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i ddatgymalu a chael gwared ar beirianwaith, strwythurau ac offer halogedig a ddefnyddir o fewn cyfleusterau niwclear (asedau) yn unol â manylebau. Mae hyn yn golygu'r weithred o dynnu a chael gwared ar yr ased a/neu ddileu neu waredu eitemau gwastraff etifeddol, peirianwaith ac offer halogedig.
Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Datgymalu a thynnu peirianwaith, strwythurau ac offer halogedig a ddefnyddir mewn cyfleusterau niwclear
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.  
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill  
P2 sefydlu a, lle y bo'n briodol, nodi cydran ar gyfer ei hailosod  
P3 sicrhau bod unrhyw egni neu sylweddau sy'n cael eu storio yn cael eu rhyddhau'n ddiogel ac yn gywir  
P4 gwneud pob proses arwahanrwydd a datgysylltiad i'r offer yn unol â gweithdrefnau cymeradwy  
P5 gwneud y gwaith datgymalu i'r lefel y cytunwyd arni gan ddefnyddio offer a thechnegau cywir  
P6 storio cydrannau i'w hail-ddefnyddio mewn lleoliadau cymeradwy  
P7 dileu a gwaredu cydrannau a sylweddau diangen yn unol â gweithdrefnau cymeradwy  
P8 delio'n brydlon ac yn effeithiol â phroblemau o fewn eich rheolaeth ac adrodd ar y rhai na ellir eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch  
K2 sut i gael gafael a dehongli lluniadau a manylebau cysylltiedig   
K3 y dulliau a'r technegau a ddefnyddir wrth ddatgymalu  
K4 y dulliau a'r technegau a ddefnyddir wrth drin offer  
K5 yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir i ddatgymalu a lleihau maint  
K6 gweithdrefnau gofal a rheoli offer a chyfarpar   
K7 sut i amddiffyn rhag ffynonellau ymbelydredd  
K8 sut i atal halogiad rhag lledaenu  
K9 y priodweddau a'r mathau o ymbelydredd sy'n bresennol yn y cyfleuster   
K10 y trefniadau storio ar gyfer eitemau ymbelydrol/halogedig  
K11 y gweithdrefnau gwaredu gwastraff   
K12 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:
Peirianwaith, strwythurau ac offer  
• Arbelydru a/neu wedi'i halogi  
• Cydosodiadau llawn  
• Is-gydosodiadau  
Cydrannau  
Unrhyw eitem sy'n rhan o'r peirianwaith, y strwythurau a'r offer sy'n cael eu datgymalu  
Datgymalu  
• Mae eitemau ar gael yn rhwydd  
• Mae eitemau o fewn amgylchedd a reolir gan ymbelydredd/halogiad