Monitro amodau ymbelydredd wrth wneud gwaith

URN: COGN227
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw monitro amodau ymbelydredd yn ystod gwaith penodol.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud; canfod y peryglon posibl o ran ymbelydredd a lefelau’r cysylltiad ag ymbelydredd; monitro’r amodau ymbelydredd; cymharu’r amodau ymbelydredd â’r safonau perthnasol; canfod unrhyw broblemau gyda’r amodau ymbelydredd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Monitro amodau ymbelydredd wrth wneud gwaith

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N227 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael gwybodaeth am y math o waith sy’n cael ei wneud
P2 canfod y peryglon posibl o ran ymbelydredd a dod i gysylltiad â deunyddiau ymbelydrol yn sgil y gwaith sy’n cael ei wneud
P3 cael gwybodaeth am y defnydd o systemau diogelu rhag ymbelydredd, cyfarpar diogelu personol, terfynau personol ar gyfer cysylltiad ag   ymbelydredd neu halogiad, ac unrhyw fesurau rheoli perthnasol eraill
P4 dewis cyfarpar monitro addas ar gyfer yr amodau ymbelydredd yn ystod y gwaith
P5 monitro’r amodau ymbelydredd drwy ddefnyddio’r cyfarpar monitro priodol ar adegau addas yn ystod y gwaith
P6 cymharu’r lefelau ymbelydredd a fesurir â’r safonau perthnasol ar gyfer y gwaith sy’n cael ei wneud
P7 dod o hyd i unrhyw broblemau gyda’r amodau ymbelydredd, a chymryd y camau priodol
P8 nodi unrhyw welliannau posibl i’r ffordd y gellid monitro ymbelydredd
P9 gofyn am gyngor i ddelio ag unrhyw ofynion sydd y tu hwnt i’ch gallu technegol eich hun
P10 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 asesiadau dosimetreg
K2 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 cyfarpar monitro ymbelydredd
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N227

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Dos, Dosimetreg, iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, cyfrifoldeb, rôl, diogelwch, peryglon, mesur