Monitro peryglon ymbelydredd

URN: COGN226
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw monitro peryglon ymbelydredd. Gallai’r
peryglon fod yn gysylltiedig â’r gweithgareddau, y cyfarpar neu’r deunyddiau yn y gweithle.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud, gan gynnwys unrhyw asesiadau risg; canfod unrhyw beryglon posibl o ran ymbelydredd a’u heffeithiau; defnyddio systemau diogelu rhag ymbelydredd; canfod ac ymateb i unrhyw beryglon nad ydynt yn cael eu rheoli.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Monitro peryglon ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N226 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael yr holl wybodaeth berthnasol am y gwaith sy’n cael ei wneud, a’r cyfarpar a’r deunyddiau ymbelydrol sy’n cael eu defnyddio
P2 canfod unrhyw beryglon posibl o ran ymbelydredd sy’n deillio o’r gwaith sy’n cael ei wneud, a’u heffeithiau posibl os nad ydynt yn cael eu rheoli
P3 defnyddio systemau'r sefydliad ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd i fonitro’r perygl ymbelydredd
P4 asesu a yw’r peryglon ymbelydredd yn cael eu rheoli’n briodol gan y systemau diogelu rhag ymbelydredd
P5 canfod unrhyw beryglon ymbelydredd nad ydynt yn cael eu rheoli, a chymryd y camau priodol ar unwaith
P6 nodi unrhyw welliannau posibl y gellid eu gwneud i’r broses o ganfod a monitro peryglon ymbelydredd
P7 gofyn am gyngor i ddelio ag unrhyw ofynion sydd y tu hwnt i’ch gallu technegol eich hun
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N226

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon