Ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd
a allai effeithio ar y safle neu’r ardal gyfagos.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am ddigwyddiadau ymbelydredd posibl a sut gallent ddatblygu; nodi digwyddiadau go iawn; dilyn gweithdrefnau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd; defnyddio systemau'r sefydliad ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd; canfod problemau gyda’r ymateb ac awgrymu gwelliannau.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N225 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cael gwybodaeth am sut gallai digwyddiadau ymbelydredd posibl ddatblygu o ganlyniad i'r gwaith sy'n cael ei wneud
P2 dilyn y gweithdrefnau, y rheoliadau a’r canllawiau ar gyfer ymateb i’r digwyddiad ymbelydredd
P3 dynodi’r digwyddiad ymbelydredd yn gywir, a rhoi gwybod i’r bobl berthnasol
P4 defnyddio’r systemau perthnasol ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd heb oedi, er mwyn ymateb i’r digwyddiad ymbelydredd
P5 nodi unrhyw broblemau gyda’r ymateb i’r digwyddiad ymbelydredd, a rhoi gwybod i’r bobl briodol cyn gynted â phosibl
P6 nodi unrhyw welliannau posibl i’r ymateb i’r digwyddiad ymbelydredd
P7 gofyn am gyngor i ddelio ag unrhyw ofynion sydd y tu hwnt i’ch gallu technegol eich hun
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K2 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K3 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K4 digwyddiadau ymbelydredd
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol