Rheoli gwybodaeth am ddiogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN221
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw rheoli gwybodaeth ynghylch diogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys nodi’r wybodaeth y mae angen ei chofnodi; cael a chasglu’r wybodaeth; sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u diogelu; rheoli mynediad atynt, gan gynnwys cadw cyfrinachedd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Rheoli gwybodaeth am ddiogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N221 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 nodi’r wybodaeth sy’n berthnasol i ddiogelu rhag ymbelydredd y mae angen ei chofnodi a'i diogelu
P2 cael a chasglu’r holl wybodaeth berthnasol am ddiogelu rhag ymbelydredd i’w chofnodi yn y systemau gwybodaeth
P3 sicrhau bod y cofnodion ar ddiogelu rhag ymbelydredd yn glir, yn gyflawn, ac yn ddarllenadwy
P4 sicrhau bod y cofnodion ar ddiogelu rhag ymbelydredd yn cael eu cadw a’u diogelu yn unol â’r gweithdrefnau penodedig
P5 rheoli mynediad at y cofnodion ar ddiogelu rhag ymbelydredd, yn unol â'r                      gweithdrefnau penodedig
P6 cadw gwybodaeth y sefydliad am ddiogelu rhag ymbelydredd yn gyfrinachol
P7 nodi unrhyw broblemau ynghylch diogelu a chynnal a chadw cofnodion, a'u datrys heb oedi
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 systemau gwybodaeth
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N221

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon, cyfrinachedd