Neilltuo gwaith ymbelydredd i gydweithwyr

URN: COGN220
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 03 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw neilltuo gwaith sy’n cynnwys peryglon posibl o ran ymbelydredd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith y mae’n rhaid ei wneud; adolygu’r holl wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith, y peryglon a’r risgiau; dewis cydweithwyr priodol i wneud y gwaith, gan gynnwys optimeiddio eu cysylltiad ag ymbelydredd; darparu gwybodaeth i gydweithwyr am yr hyn sy’n ofynnol; rhoi adborth i gydweithwyr, a chydnabod eu llwyddiannau.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Neilltuo gwaith ymbelydredd i gydweithwyr

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N220 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cadarnhau bod y gwaith ymbelydredd yn angenrheidiol er mwyn cyflawni amcanion y sefydliad
P2 cael gwybodaeth gywir ac asesiadau risg ar y gwaith ymbelydredd
P3 cyfeirio at weithdrefnau a meini prawf y sefydliad ar gyfer dewis a defnyddio cydweithwyr i wneud gwaith ymbelydredd
P4 dewis cydweithwyr addas sydd â’r wybodaeth, y sgiliau, y cymwysterau a’r
profiad priodol i wneud y gwaith ymbelydredd
P5 optimeiddio cysylltiad cydweithwyr ag ymbelydredd drwy adolygu eu
cysylltiad blaenorol ag ymbelydredd
P6 cytuno ar aseiniadau gyda chydweithwyr o fewn y ffiniau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyfrifoldebau eu swydd
P7 rhoi gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i gydweithwyr sy’n gwneud gwaith ymbelydredd, er mwyn iddyn nhw gyflawni eu hamcanion gwaith
P8 nodi a datrys mor effeithiol â phosibl unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod yr aseiniadau
P9 rhoi adborth ar y broses o gyflwyno aseiniadau i’r bobl berthnasol
P10 sicrhau cydnabyddiaeth am gyflawni aseiniadau, a bod cydweithwyr yn cael canmoliaeth mewn ffordd sy'n eu cymell i barhau â'u llwyddiant
P11 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K2 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K3 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K4 cyfarpar monitro ymbelydredd
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 systemau gwaith diogel
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

03 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N220

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Dos, iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, cyfrifoldeb, rôl, diogelwch, peryglon