Cynllunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN211
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw cynllunio rhaglen diogelu rhag   ymbelydredd, a fydd yn rhoi sylw i elfennau perthnasol o ddiogelu rhag ymbelydredd ar gyfer gwahanol grwpiau o weithwyr.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys nodi hyd a lled, pwrpas a chanlyniadau dysgu’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd; cynllunio datblygiad y rhaglen hyfforddiant a’r broses o’i chyflwyno; neilltuo cyfrifoldeb dros gyflwyno’r rhaglen hyfforddiant; cyflwyno’r rhaglen i randdeiliaid; sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant yn cydymffurfio â’r holl ofynion.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Cynllunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N211 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 nodi hyd a lled a phwrpas y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P2 pennu canlyniadau dysgu clir y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P3 nodi’r gweithgareddau a’r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P4 adolygu’r opsiynau i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P5 pennu’r cyfrifoldebau i ddatblygu a chyflwyno gwahanol rannau o'r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P6 cyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd i randdeiliaid perthnasol mewn fformat addas, a gyda digon o wybodaeth i'r rhaglen gael ei gwerthuso
P7 sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol      K10 dulliau hyfforddi a datblygu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N211

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

N211

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, gwybodaeth, niwclear, radiolegol, adnoddau, diogelwch, sgiliau, peryglon