Ymchwilio i ddigwyddiadau ymbelydredd

URN: COGN210
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw ymchwilio i ddigwyddiadau ymbelydredd a allai effeithio ar y safle neu’r ardal gyfagos.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys pennu hyd a lled yr ymchwiliad a sut dylid ei gynnal; casglu gwybodaeth am y digwyddiad ymbelydredd; llunio amserlen o ddigwyddiadau; nodi'r hyn a oedd wedi achosi’r digwyddiad a’i ganlyniadau; asesu a oedd y cynlluniau wrth gefn a’r systemau diogelu rhag ymbelydredd yn effeithiol; rhoi gwybod am y digwyddiad a nodi ei oblygiadau.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Ymchwilio i ddigwyddiadau ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N210 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cadarnhau hyd a lled a diben yr ymchwiliad i'r digwyddiad ymbelydredd
P2 penderfynu ar y dulliau ymchwilio priodol y dylid eu defnyddio
P3 cael gwybodaeth am ymateb y sefydliad i’r digwyddiad ymbelydredd
P4 adolygu’r holl ddogfennau a systemau monitro perthnasol sy’n ymwneud â’r digwyddiad ymbelydredd
P5 llunio amserlen o’r digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad ymbelydredd
P6 cynnig yr hyn sydd fwyaf tebygol o fod wedi achosi'r digwyddiad ymbelydredd
P7 nodi effaith y digwyddiad ymbelydredd ar yr amgylchedd a’r sefydliad
P8 asesu a oedd cynlluniau wrth gefn a systemau diogelu rhag ymbelydredd yn effeithiol wrth ddelio â’r digwyddiad ymbelydredd
P9 darparu adroddiad clir am y digwyddiad ymbelydredd i’r holl randdeiliaid perthnasol
P10 nodi unrhyw oblygiadau i bolisïau a systemau diogelu rhag ymbelydredd sy’n deillio o’r digwyddiad ymbelydredd
P11 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 gweithdrefnau a dulliau ymchwilio
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 digwyddiadau ymbelydredd
K7 materion diogelu rhag ymbelydredd
K8 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K9 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K10 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K11 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K12 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N210

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon