Rhoi cyngor ar gategoreiddio gweithwyr ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw rhoi cyngor ar y grwpiau a’r unigolion y gellir eu dynodi'n “weithwyr wedi’u categoreiddio”.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am sut mae’r sefydliad yn categoreiddio gweithwyr, ac am y gweithgareddau maen nhw’n eu cyflawni; adolygu asesiadau risg; dynodi gweithwyr sy’n wynebu risgiau; rhoi cyngor clir i’r sefydliad; adolygu’r broses gategoreiddio.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Rhoi cyngor ar gategoreiddio gweithwyr ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N209 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cael gwybodaeth am weithdrefnau a meini prawf y sefydliad ar gyfer categoreiddio gweithwyr
P2 cael gwybodaeth am y math o waith y mae’r gweithwyr yn ei wneud
P3 adolygu’r holl asesiadau risg perthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith, a chanfod a oes unrhyw risgiau ymbelydredd
P4 dweud yn glir pa weithwyr fydd yn dod ar draws risgiau sylweddol o ran ymbelydredd
P5 rhoi cyngor clir a chywir i’r sefydliad ar y broses o gategoreiddio gweithwyr ymbelydredd
P6 adolygu’r broses gategoreiddio ar adeg briodol
P7 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 systemau categoreiddio
K2 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K3 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 cyfarpar monitro ymbelydredd
K7 materion diogelu rhag ymbelydredd
K8 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K9 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K10 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K11 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K12 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol