Darparu gwybodaeth a chyngor ar ddiogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN206
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw darparu gwybodaeth a chyngor ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys enwi’r rheini y mae angen gwybodaeth a chyngor arnynt a thrafod eu hanghenion; darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol; cyflwyno a lledaenu gwybodaeth a chyngor; ymateb i gwestiynau, a chyfeirio pobl at ffynonellau dibynadwy eraill.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Darparu gwybodaeth a chyngor ar ddiogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N206 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 enwi’r bobl y mae angen darparu gwybodaeth a chyngor iddynt ar faterion diogelu rhag ymbelydredd
P2 trafod â phobl faint o wybodaeth a chyngor maen nhw wedi’u cael yn barod, y math o wybodaeth a chyngor, a’u ffynonellau
P3 darparu gwybodaeth a chyngor sy’n berthnasol i ofynion pobl, a sicrhau eu bod mor gywir â phosibl
P4 dewis dulliau ac adnoddau ar gyfer cyflwyno a lledaenu’r wybodaeth a'r cyngor i bobl
P5 enwi ffynonellau o wybodaeth a chyngor y gall y bobl gael gafael arnynt er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth o ddiogelu rhag ymbelydredd, a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
P6 ymateb i unrhyw gwestiynau sy’n codi, a sicrhau bod unrhyw gwestiynau na ellir eu hateb yn cael eu cyfeirio at y person priodol
P7 nodi unrhyw broblemau o ran darparu gwybodaeth a chyngor, a'u datrys heb oedi
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N206

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Penderfyniad, iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, dealltwriaeth, peryglon