Datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd

URN: COGN204
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw datblygu cynlluniau wrth gefn i ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd, a allai effeithio ar y safle neu’r ardal gyfagos.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys nodi digwyddiadau ymbelydredd posibl a sut gallent ddatblygu; dewis dulliau ac adnoddau ar gyfer canfod a rheoli digwyddiadau; pennu gweithdrefnau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau; rhannu a phrofi’r cynlluniau wrth gefn; darparu cymorth ar gyfer y broses o roi’r cynlluniau wrth gefn ar waith, a’u hadolygu.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N204 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 nodi’r mathau o ddigwyddiadau ymbelydredd y mae’n rhesymol eu rhag-weld, a allai ddigwydd o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle
P2 dweud sut gallai digwyddiadau ymbelydredd gychwyn a datblygu, ac egluro eu canlyniadau
P3 dewis y dulliau a’r adnoddau priodol y dylid eu defnyddio ar gyfer canfod a rheoli digwyddiadau ymbelydredd
P4 nodi’r gweithdrefnau ar gyfer ymateb yr holl bobl berthnasol i ddigwyddiadau ymbelydredd
P5 sicrhau bod y cynlluniau wrth gefn ar gael i’r holl bobl berthnasol, ac wedi’u cynnwys yn yr holl systemau perthnasol i ddiogelu rhag ymbelydredd
P6 profi’r cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymateb i’r digwyddiadau ymbelydredd cyn eu rhoi ar waith
P7 darparu cymorth a chefnogaeth briodol i sicrhau bod y cynlluniau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol
P8 adolygu’r cynlluniau wrth gefn yn rheolaidd neu mewn ymateb i ddigwyddiadau ymbelydredd
P9 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 cynlluniau wrth gefn
K3 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 digwyddiadau ymbelydredd
K7 materion diogelu rhag ymbelydredd
K8 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K9 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K10 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K11 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K12 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N204

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon