Datblygu systemau diogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN202
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw datblygu system diogelu rhag ymbelydredd. Mae’n debygol y bydd y system yn cynnwys gweithdrefnau a chyfarpar sy’n bodoli’n barod (un darn, neu fwy nag un darn), ond gallai fod yn ddyluniad cwbl wreiddiol. Ni ddisgwylir i’r cyfarpar ei hun gael ei adeiladu gan y sawl sy’n gwneud y gweithgaredd hwn.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys adolygu perfformiad y system bresennol; cynllunio sut i ddatblygu’r system; creu manyleb y dyluniad ar gyfer unrhyw agweddau newydd; sicrhau bod y dyluniad yn cyflawni’r holl ofynion; datblygu meini prawf cynnal a chadw ac archwilio.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Datblygu systemau diogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N202 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 adolygu’r holl wybodaeth berthnasol am berfformiad y system diogelu rhag ymbelydredd
P2 penderfynu pa weithgareddau ac adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu’r system diogelu rhag ymbelydredd
P3 blaenoriaethu a threfnu’r broses ddatblygu er mwyn cadw at derfynau amser a chyflawni amcanion
P4 nodi’r cyfarpar a’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar gyfer y system diogelu rhag ymbelydredd
P5 penderfynu pa elfennau o’r system diogelu rhag ymbelydredd y gellir eu cael gan gyflenwadau presennol neu y mae angen eu dylunio
P6 creu manyleb o’r dyluniad ar gyfer unrhyw elfennau o’r system diogelu rhag ymbelydredd y mae angen eu dylunio
P7 sicrhau bod dyluniad y system diogelu rhag ymbelydredd yn cadw at fanyleb y dyluniad
P8 datblygu meini prawf cynnal a chadw ac archwilio perthnasol ar gyfer y system diogelu rhag ymbelydredd
P9 sicrhau bod proses ddatblygu’r system diogelu rhag ymbelydredd yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol
P10 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol
K10 dulliau o ddylunio systemau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

COGN202

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon