Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell

URN: CFAINT09
Sectorau Busnes (Suites): Cyfieithu ar y Pryd
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Tach 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell drwy ddefnyddio technoleg ac offer. Mae cyfieithu ar y pryd o bell yn sefyllfa pan mae'r cyfieithydd ar y pryd ac o leiaf un o'r rhai sy'n cymryd rhan, mewn gwahanol leoliadau. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cyfieithu ar y pryd dros y ffôn a/neu fideo gynadledda a/neu systemau eraill o bell. Mae hyn yn cynnwys gosod a pharatoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell, cyfieithu ar y pryd mewn ffordd sy'n briodol i'r dechnoleg a'r offer a ddefnyddir, a gwerthuso sut y cyflawnir aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell, a cheisio adborth y rhai sy'n cymryd rhan, lle bo'n berthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1 siarad/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 asesu a yw cyfieithu ar y pryd o bell yn briodol ar gyfer yr aseiniad ac, os nad yw'n briodol, trafod hyn gyda'r partïon perthnasol fel bod modd ystyried trefniadau amgen

3 asesu eich cymhwysedd, lefelau sgiliau a'ch gallu i gyfieithu ar y pryd o bell yn effeithiol

4 paratoi, gosod a gwirio technoleg ac offer cyn dechrau ar yr aseiniad cyfieithu ar y pryd, fel y bo'n briodol

5 ymgynghori â'r unigolyn/unigolion perthnasol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau technegol neu wrth osod, fel y bo angen

6 asesu a gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd gwaith a'r offer yn hwyluso cyfieithu ar y pryd effeithiol, diogelwch personol, cyfforddusrwydd a chyfrinachedd a gofyn am unrhyw newidiadau, fel y bo angen

7 cyfieithu ar y pryd mewn ffordd sy'n addas i'r dechnoleg a'r offer a ddefnyddir

8 cyflwyno eich hun ar y dechrau a dangos eich bod yn bresennol, lle bo'n berthnasol

9 esbonio'r broses o gyfieithu ar y pryd o bell ac unrhyw amodau penodol ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan

10 monitro'r dechnoleg a'r offer cyfieithu ar y pryd o ran clywed a/neu weld gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, ac addasu lle bo angen a/neu'n briodol

11 dilyn y broses y cytunwyd arni mewn argyfwng, gan gynnwys os nad yw'r dechnoleg a'r offer yn gweithio

12 monitro effeithiolrwydd y cyfieithu ar y pryd drwy gydol cyfnod yr aseiniad cyfieithu ar y pryd o bell a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a allai godi heb amharu ar ansawdd y cyfieithu ar y pryd, lle bo'n bosibl

13 gwerthuso sut y cyflawnir yr aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell a gofyn am adborth gan y rhai sy'n cymryd rhan, lle y bo'n berthnasol

14 adolygu ac addasu eich ymarfer proffesiynol a'ch ymddygiad er mwyn cynorthwyo datblygiad proffesiynol wrth gyfieithu ar y pryd o bell 15 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb 

3 ymddygiad, technegau ac egwyddorion moesegol sy'n ymwneud yn benodol ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

4 amgylchiadau lle mae cyfieithu ar y pryd o bell yn briodol neu'n amhriodol

5 y gwahanol fathau o dechnoleg ac offer a ddefnyddir ar gyfer cyfieithu ar y pryd o bell, pa mor addas ydynt, eu cymhwysedd a'u cyfyngiadau

6 sut i addasu ymarfer cyfieithu ar y pryd wrth ddefnyddio technoleg ac offer penodol ar gyfer cyfieithu ar y pryd

7 sut i asesu diogelwch personol, cyfrinachedd a chyfforddusrwydd wrth gyfieithu ar y pryd o bell

8 sut i gydweithio â phartïon perthnasol i wneud yn siŵr bod technoleg ac offer cyfieithu ar y pryd yn cael eu defnyddio'n effeithiol

9 strategaethau rheoli problemau ac anawsterau sy'n ymwneud â chyfieithu ar y pryd o bell


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd

CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd

CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd

CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

22 Tach 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAINT09

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Laith, llenyddiaeth a diwylliant, Ieithyddiaeth, Cyfieithydd ar y Pryd, Cyfieithydd ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweinyddol, Cyfieithydd Iaith Arwyddion, Ieithoedd eraill, Cyfieithydd ar y Pryd Cynadleddau

Cod SOC

1

Geiriau Allweddol

Cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, iaith, cyfathrebu, olynol, ar y pryd, cymunedol