Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

URN: CFAINT08
Sectorau Busnes (Suites): Cyfieithu ar y Pryd
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Tach 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol eraill (gan gynnwys cyfieithu ar y pryd yn anuniongyrchol). Mae hyn yn golygu cyflawni unrhyw baratoadau angenrheidiol gyda chyfieithwyr ar y pryd yr ydych yn gweithio gyda nhw ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd, a chytuno gyda nhw ar sut i ymgymryd â'r aseiniad yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n effeithiol gyda chyfieithwyr a'u cefnogi lle bo angen. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso effeithiolrwydd yr aseiniad gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd. Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol eraill yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm, gan gynnwys cydweithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1 siarad/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 trafod gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd a chytuno gyda nhw ar y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, gan gynnwys:

2.1 pa offer sydd ei angen a'r trefniadau ar eu cyfer, fel y bo angen

2.2 sut y rhoddir unrhyw gymorth yn ystod aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm

3 trafod a chyflawni unrhyw baratoadau ac ymchwil angenrheidiol gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd

4 cytuno ar ffyrdd priodol o drefnu'r gwaith, os bydd newid yn y trefniadau ar gyfer aseiniad cyfieithu ar y pryd

5 gwirio bod yr amgylchedd gwaith ffisegol yn eich hwyluso i weithio'n effeithiol a chytuno gyda chyd-gyfieithwyr ar y pryd ar unrhyw addasiadau, lle bo'n berthnasol

6 rhoi trefniadau cyfieithu ar y pryd y cytunwyd arnynt ar waith a defnyddio adnoddau yn effeithlon

7 rhoi cymorth i gyd-gyfieithwyr ar y pryd, drwy gydol cyfnod yr aseiniad, lle bo angen

8 defnyddio cymorth gan gyd-gyfieithwyr ar y pryd yn effeithiol, drwy gydol cyfnod yr aseiniad, lle bo angen

9 hysbysu'r cyd-gyfieithwyr ar y cyd priodol mewn da bryd am unrhyw anawsterau o ran cyflawni eich cyfrifoldebau, lle bo'n berthnasol

10 adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd yr aseiniad cyfieithu ar y pryd, a myfyrio arno, gyda chyd-gyfieithwyr ar y cyd ar ôl yr aseiniad

11 gwneud awgrymiadau priodol er mwyn gwella effeithiolrwydd aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm yn y dyfodol, a hynny mewn modd proffesiynol fel y bo'n briodol

12 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb

3 dulliau ymchwilio er mwyn paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm

4 sut i gyfathrebu mewn modd adeiladol wrth weithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

5 technegau a chonfensiynau derbyniol o weithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill ar aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm

6 sut i wneud awgrymiadau adeiladol er mwyn gwneud aseiniadau cyfieithu ar y pryd ar y cyd/mewn tîm yn fwy effeithiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd

CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT03 Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd

CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd

CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

22 Tach 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAINT08

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Laith, llenyddiaeth a diwylliant, Ieithyddiaeth, Cyfieithydd ar y Pryd, Cyfieithydd ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweinyddol, Cyfieithydd Iaith Arwyddion, Ieithoedd eraill, Cyfieithydd ar y Pryd Cynadleddau

Cod SOC

N/A

Geiriau Allweddol

Cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, iaith, cyfathrebu, olynol, ar y pryd, cymunedol