Cyfieithu ar y pryd un ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

URN: CFAINT03
Sectorau Busnes (Suites): Cyfieithu ar y Pryd
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Tach 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd sy'n ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd un ffordd. Mae hyn yn golygu gallu cyfieithu ar y pryd yn gywir, un ffordd, yn yr iaith darged. Mae'n cynnwys gallu dewis a defnyddio'r dull priodol o gyfieithu ar y pryd ar gyfer yr achlysur (h.y. olynol neu ar y pryd/sibrwd) a gallu defnyddio technoleg ac offer yn effeithiol ac yn ddiogel e.e. meicroffonau, ffonau, technoleg fideo, cyswllt fideo, bwth cyfieithu ar y pryd ac offer cyfieithu ar y pryd symudol, fel y bo'n briodol. Mae hefyd yn cynnwys monitro effeithiolrwydd y cyfieithu ar y pryd a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a materion a allai godi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1 siarad/neu ddefnyddio iaith arwyddion ar lefel gymhleth yn eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 esbonio eich rôl fel cyfieithydd ar y pryd a rhoi eglurhad, lle bo'n berthnasol

3 gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd gwaith ffisegol yn cefnogi cyfieithu ar y pryd effeithiol, diogelwch personol a chyfforddusrwydd a gofyn am newidiadau, fel y bo angen

4 trafod gyda'r rhai sy'n cymryd rhan y math o gyfathrebu a ddisgwylir er mwyn hwyluso cyfieithu ar y pryd effeithiol a rhoi eglurhad lle bo angen

5 cyfieithu ystyr unrhyw gyflwyniad estynedig yn gywir yn yr iaith darged

6 cyfieithu ar y pryd yn y dull priodol (olynol a/neu ar y pryd/sibrwd)

7 cyfieithu ar y pryd yn gywir i adlewyrchu agweddau sy'n gysylltiedig ag iaith ffynhonnell y rhai sy'n cymryd rhan:

7.1, cywair, tôn a chyflymder yr iaith a fynegir drwy ddulliau cyfathrebu geiriol a di-eiriol (iaith y corff/symudiadau)

7.2 awgrymiadau cymdeithasol a diwylliannol

7.3 y rôl a'r berthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn gwrando ar yr iaith darged

8 cyfieithu gwybodaeth ffeithiol, cysyniadau a safbwyntiau

9 cyfieithu iaith gymhleth gan gynnwys terminoleg sy'n ymwneud â'r maes yn benodol

10 monitro effeithiolrwydd y cyfieithu ar y pryd drwy gydol cyfnod yr aseiniad a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a allai godi heb amharu ar ansawdd y cyfieithu ar y pryd

11 monitro'r broses cyfieithu ar y pryd er mwyn nodi pryd mae angen gofyn am gymorth neu dynnu'n ôl o'r aseiniad cyfieithu ar y pryd, a chymryd camau priodol

12 defnyddio technoleg ac offer yn effeithiol ac yn ddiogel, fel y bo'n briodol

13 addasu'r arddull cyfathrebu yn unol â'r cyfrwng a'r dechnoleg a ddefnyddir, lle bo'n berthnasol

14 cymryd nodiadau yn ystod aseiniad cyfieithu ar y pryd olynol, fel y bo'n briodol

15 rhoi gwybodaeth ac adborth i'r partïon perthnasol, ar ôl yr aseiniad, fel y bo'n briodol

16 asesu a oes angen cymorth ar ôl yr aseiniad ar gyfer lles corfforol, emosiynol a phersonol, a chael gafael ar unrhyw gymorth ar ôl yr aseiniad os ydyw ar gael

17 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad yn cyd-fynd ag ystyriaethau moesegol, codau ymddygiad perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 iaith lafar a/neu iaith arwyddion ar lefel gymhleth ar gyfer eich ieithoedd gwaith, sy'n cyfateb i C1 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Cyfeirio Ieithoedd (mae rhagor o wybodaeth yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd)

2 rôl y cyfieithydd ar y pryd, egwyddorion ymarfer proffesiynol, codau ymddygiad proffesiynol, deddfwriaeth berthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad/egwyddorion moesegol, gwrthdaro rhwng buddiannau, cyfrinachedd, didueddrwydd, uniondeb, atebolrwydd a phroffesiynoldeb 

3 gofynion diogelwch personol wrth ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

4 y broses o gyfieithu ar y pryd o un iaith i iaith arall a thechnegau sy'n hwyluso'r broses o gyfieithu ar y pryd

5 y dulliau cyfieithu ar y pryd olynol a/neu ar y pryd/sibrwd, fel y bo'n briodol

6 diwylliannau'r ieithoedd yr ydych yn eu cyfieithu ar y pryd a'u cysyniadau a'u confensiynau cyfathrebu, yn ogystal â goblygiadau'r agweddau hyn ar gyfer cyflwyno aseiniadau cyfieithu ar y pryd un ffordd

7 strategaethau ar gyfer ymdrin â chyfeiriadau diwylliannol-benodol

8 sut i drosglwyddo cywair o un iaith i'r un arall a thechnegau i'w defnyddio pan nad yw cywair y rhai sy'n siarad neu'n gwrando yn cyfateb i'w gilydd

9 yr amrywiaeth yn iaith a mynegiant y rhai sy'n cymryd rhan

10 technegau er mwyn cyfieithu ar y pryd yn effeithiol mewn cyflwyniad un ffordd

11 technegau er mwyn cymryd camau a rheoli'r broses gyfathrebu os yw'n wynebu anhawster yn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol:

11.1 gorfod gwirio ystyr

11.2 cymhlethdod, pwynt technegol neu gyfrifoldeb emosiynol sydd y tu hwnt i'r hyn y gallwch ymdopi ag ef

11.3 os yw eich sefyllfa eich hun a/neu sefyllfa'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhwystro cyfathrebu

11.4 ymddygiad y rhai sy'n cymryd rhan yn eich atal rhag cyfieithu ar y pryd yn effeithiol

12 y maes/meysydd yr ydych yn eu cyfieithu a sut i weithio gyda'r bobl broffesiynol yn eu maes

13 protocolau iaith sy'n ymwneud â maes penodol

14 defnyddio technoleg ac offer, gofynion iechyd a diogelwch a gwybod sut i fynd i'r afael â phroblem dechnegol

15 technegau cymryd nodiadau wrth gyfieithu'n olynol, fel y bo'n briodol

16 y cymorth sydd ar gael ar gyfer lles corfforol, emosiynol a phersonol a sut i gael gafael ar y cymorth hwn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â nifer o safonau eraill, yn benodol:

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfieithu ar y Pryd

CFAINT01 Asesu eich gallu i ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT02 Paratoi ar gyfer aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINS04 Cyfieithu ar y pryd dwy ffordd fel cyfieithydd proffesiynol

CFAINT05 Gwerthuso a datblygu eich ymarfer proffesiynol fel cyfieithydd ar y pryd

CFAINT06 Cynhyrchu cyfieithiadau golwg yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT07 Cynhyrchu cyfieithiadau di-oed yn rhan o aseiniadau cyfieithu ar y pryd

CFAINT08 Gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd eraill

CFAINT09 Ymgymryd ag aseiniadau cyfieithu ar y pryd o bell

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd

CFALANG1.6 Darllen testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG2.6 Siarad/Gwneud Arwyddion drwy ddefnyddio iaith gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith

CFALANG3.6 Ysgrifennu testun cymhleth am ystod eang o bynciau gwaith

CFALANG4.6 Deall iaith lafar neu iaith arwyddion gymhleth mewn ystod eang o sefyllfaoedd gwaith


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

22 Tach 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAINT02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyfieithydd ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus, Ieithoedd, llenyddiaeth a diwylliant eraill, Gweinyddol, Cyfieithu ar y Pryd, Cyfathrebu Ieithyddiaeth

Cod SOC

N/A

Geiriau Allweddol

Cyfieithu ar y pryd, aseiniadau, gallu, asesu