Cynllunio a chynnal ymchwil ar ran y gwasanaeth

URN: CDICRD17
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chynnal ymchwil ar ran y gwasanaeth ar wybodaeth ac ymarfer datblygu gyrfa yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol, er mwyn gwella'r wybodaeth a'r adnoddau sydd ar gael i unigolion ac ymarferwyr. Gallai'r ymchwil ymwneud â theori ac ymarfer wrth ddatblygu gyrfa neu'r marchnadoedd dysgu a llafur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau eich bod yn deall y brîff ymchwil, yr wybodaeth sy'n ofynnol, sut bydd yn cael ei defnyddio a sut mae angen ei chyflwyno wrth gynllunio ymchwil ar ran y gwasanaeth

  2. nodi a sicrhau mynediad i adnoddau sy'n caniatáu dadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd yn gywir

  3. cymhwyso dulliau ymchwil priodol a moesegol i gasglu gwybodaeth wrth gynnal ymchwil ar ran y gwasanaeth

  4. sicrhau bod y data a gesglir yn berthnasol i nodau'r cynllun ymchwil

  5. coladu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth sy'n bodloni gofynion y brîff ymchwil

  6. cadw cofnod o ffynonellau, technegau chwilio a strategaeth ynghyd â chanlyniadau eich ymchwil, sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol

  7. dadansoddi a lledaenu'r canlyniadau

  8. canfod ffynonellau gwybodaeth pellach posibl a gwerthuso eu perthnasedd a'u priodoldeb

  9. gwerthuso'r gweithgaredd ymchwil a chynllunio gwelliannau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol yn ôl y galw

  10. gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn

  11. herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol

  12. hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal

  13. cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. gofynion brîff ymchwil

  3. sut mae cymhwyso ymchwil a dadansoddi yn eich cyd-destun gwaith

  4. ymarfer ymchwil effeithiol a'r technegau, yr offer a'r ffynonellau sydd ar gael i'ch cyd-destun gwaith

  5. sut defnyddir data ymchwil gan sefydliadau

  6. sut mae gwerthuso perthnasedd, ansawdd a defnyddioldeb data ymchwil

  7. offer a thechnegau ymchwil sy'n briodol ar gyfer eich maes arbenigol

  8. sut mae rheoli'r broses ymchwil yn drefnus, fel bod modd cyfeirio at ffynonellau ac ailadrodd gwaith yn ôl y galw

  9. sut mae gwerthuso gweithgareddau ymchwil gan ddefnyddio adborth cydweithwyr a'u mesur yn erbyn canlyniadau

  10. egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt

  11. ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDICRD17

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio