Cynllunio a dylunio'r gwasanaeth a gynigir

URN: CDICRD14
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.

Mae'r safon hon yn ymwneud â deall anghenion a gofynion y farchnad o ran gwasanaethau datblygu gyrfa, a gallu darparu gwasanaeth sy'n berthnasol, y rhoddir gwerth arno, ac sy'n gynaliadwy. Mae'n cynnwys cynllunio, dylunio a chyd-drafod cynnwys a chwmpas y gwasanaeth a gyflwynir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod yr angen a'r farchnad ar gyfer gwasanaethau datblygu gyrfa

  2. ymgynghori â chlientiaid a sefydliadau i ganfod ac archwilio eu gofynion penodol

  3. cynllunio a dylunio gwasanaeth craidd a gynigir ar sail angen, arfer gorau a sgiliau a gwybodaeth ymarferwyr oddi mewn i'r adnoddau sydd ar gael

  4. cyfathrebu, dylanwadu a chyd-drafod gyda chlientiaid a sefydliadau ynghylch sut gall y gwasanaeth a gynigir ymateb orau i'w hanghenion a darparu'r gwerth mwyaf

  5. nodi'r canlyniadau a'r mesurau llwyddiant priodol ar gyfer ymyriadau a gynigir

  6. cytuno gyda chlientiaid a sefydliadau ar gontractau, cynigion neu gytundebau priodol i ddiffinio cwmpas, cyllideb a chydymffurfiaeth â safonau proffesiynol a chôd moeseg

  7. gweithio mewn cydweithrediad â chlientiaid a sefydliadau i ddylunio cynnwys y gwasanaeth, a nodi sut mae'n cysylltu ag ymyriadau eraill

  8. gweithio mewn cydweithrediad â chlientiaid a sefydliadau i gynllunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso'r gwasanaeth

  9. hyfforddi eraill yn ôl y galw i gyflwyno'r gwasanaeth a gynigir

  10. gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaeth a gynigir a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw

  11. gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn

  12. herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol

  13. annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa

  14. hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal

  15. cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol

  16. arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. yr anghenion cyfredol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwasanaethau datblygu gyrfa a'r ystod o glientiaid a rhanddeiliaid

  3. sut mae darparu tystiolaeth o'r manteision y mae gwasanaethau datblygu gyrfa yn eu cynnig i ystod o glientiaid a grwpiau rhanddeiliaid

  4. elfennau allweddol o'r hyn a gynigir gan wasanaeth datblygu gyrfa effeithiol

  5. sut mae cynllunio a dylunio'r hyn a gynigir gan y gwasanaeth datblygu gyrfa i ymateb i wahanol anghenion a chyd-destunau

  6. mesurau a dangosyddion llwyddiant, a sut mae cytuno ar y rhain ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir

  7. sut mae llunio cynnig neu gontract sy'n diffinio cwmpas, costau a sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir

  8. ymwybyddiaeth o ystod o adnoddau a thechnegau datblygu gyrfa i gyflwyno'r hyn a gynigir gan y gwasanaeth

  9. gwerth ac ystod y dulliau dysgu

  10. sut mae rhoi hyfforddiant tywys, hyfforddi a mentora eraill i gyflwyno agweddau ar y gwasanaeth datblygu gyrfa

  11. egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt

  12. sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa

  13. ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun

  14. ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol

  15. mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDICRD14

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio