Arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfa mewn sefydliad

URN: CDICRD10
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.

Mae'r safon hon yn ymwneud ag arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfa mewn sefydliad addysg, hyfforddiant neu ailsefydlu, megis ysgol, coleg, darparwr hyfforddiant yn y gweithle, prifysgol neu ystâd wedi'i diogelu, neu mewn lleoliad cymunedol neu sefydliad sy'n cyflogi. Mae'n ymwneud ag arwain a rheoli'r ddarpariaeth datblygu gyrfa gyfan, neu ran sylweddol o'r ddarpariaeth, yn y sefydliad.

Gallai'r ddarpariaeth gwaith datblygu gyrfa gynnwys gwybodaeth am yrfaoedd, cyngor ac arweiniad, hyfforddiant tywys a dysgu cysylltiedig â gyrfa.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyd-drafod polisi, blaenoriaethau ac adnoddau gwaith datblygu gyrfa gydag uwch-arweinyddion a rheolwyr

  2. dylunio a chynllunio, yn unigol neu gydag eraill, raglen gyffredinol o waith datblygu gyrfa ar gyfer y sefydliad

  3. rheoli cyfraniadau staff sydd â chyfrifoldebau am ddarparu elfennau o waith datblygu gyrfa

  4. paratoi, rheoli a rhoi cyfrif am gyllidebau ar gyfer gwaith datblygu gyrfa

  5. goruchwylio'r gwaith o sefydlu, cynnal a datblygu darpariaeth gynhwysfawr, hygyrch, wedi'i diweddaru o wybodaeth gyrfaoedd yn y sefydliad

  6. gweithio gyda staff o fewn y sefydliad i ganfod anghenion cyngor ac arweiniad unigolion, a chyfeirio unigolion at ymgynghorwyr sy'n gweithio o fewn y sefydliad a chydag ef

  7. cyd-drafod neu gomisiynu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd gan ddarparwyr allanol lle gellir cyfiawnhau hynny

  8. sicrhau partneriaethau effeithiol gydag adrannau eraill yn y sefydliad er mwyn cyfrannu at y rhaglen o waith datblygu gyrfa

  9. sicrhau partneriaethau effeithiol gyda chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant ac asiantaethau allanol eraill i gyfrannu at y gwaith datblygu gyrfa yn y sefydliad lle bo hynny'n briodol

  10. dadansoddi anghenion hyfforddi staff sy'n ymwneud â gwaith datblygu gyrfa yn y sefydliad

  11. cynllunio ac arwain sesiynau hyfforddi a briffio ar gyfer staff ac adolygu effaith hyfforddiant

  12. adolygu a gwerthuso darpariaeth gyffredinol gwaith datblygu gyrfa yn y sefydliad, gan ddefnyddio fframweithiau ansawdd perthnasol a phriodol

  13. rheoli gwelliant parhaus, newid ac arloesedd ym maes ymarfer datblygu gyrfa yn y sefydliad

  14. gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn

  15. herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol

  16. annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa

  17. hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal

  18. cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol

  19. arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. ffynonellau cyngor, cefnogaeth a syniadau newydd ar gyfer gwaith datblygu gyrfa

  3. prif elfennau gwaith datblygu gyrfa

  4. yr ystod o bobl, y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad, a allai gyfrannu at waith datblygu gyrfa, a'u rolau unigol

  5. yr adnoddau sy'n angenrheidiol i gyflawni gwaith datblygu gyrfa

  6. ffynonellau gwybodaeth am yrfaoedd

  7. sut mae dylunio rhaglenni gwaith ar gyfer dysgu cysylltiedig â gyrfa

  8. egwyddorion gweithio mewn partneriaeth

  9. sut mae paratoi manyleb ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad

  10. sut mae comisiynu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd lle bo hynny'n briodol

  11. y prif fframweithiau ansawdd ar gyfer gwaith datblygu gyrfa

  12. sut mae monitro, adolygu a gwerthuso ymarfer datblygu gyrfa

  13. sut mae strwythuro a llunio cynllun datblygiad a gwelliant

  14. sut mae dadansoddi anghenion hyfforddi staff a chanfod y dulliau mwyaf effeithiol o ymdrin â hyfforddiant staff

  15. sut mae arwain y broses o reoli newid ac arloesedd o fewn y sefydliad

  16. egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt

  17. sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa

  18. ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun

  19. ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol

  20. mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDICRD10

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio