Darparu cefnogaeth barhaus i helpu unigolion i gyflawni eu nodau gyrfa a'u hamcanion datblygu

URN: CDICRD08
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Gyrfa
Datblygwyd gan: CDI
Cymeradwy ar: 03 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu gyrfa.

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cefnogaeth barhaus i helpu unigolion i gyflawni eu nodau a'u hamcanion datblygu. Gall y gefnogaeth gael ei darparu gennych chi, gan sefydliadau eraill a chan rwydwaith ehangach o bartïon â diddordeb.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno gydag unigolion ar y gefnogaeth barhaus a fydd yn ymateb orau i'w hanghenion, ac sy'n rhoi sylw i'w sefyllfa bersonol

  2. helpu unigolion i ddiffinio'u gofynion o ran cefnogaeth barhaus

  3. annog unigolion i fod yn annibynnol a pherchnogi eu datblygiad gyrfa

  4. trafod a chytuno ar sylfaen, manteision a ffiniau eich rôl wrth gefnogi unigolion

  5. cyfeirio unigolion at sefydliadau sy'n diwallu eu hanghenion ac y maent yn gymwys i dderbyn eu cefnogaeth, lle bo hynny'n briodol

  6. galluogi unigolion i ganfod ac ymgysylltu â phartïon sydd â diddordeb wrth eu cefnogi yn eu datblygiad parhaus, gan gynnwys atgyfeiriadau lle bo hynny'n briodol

  7. ymgysylltu ag unigolion a phartïon â diddordeb, lle bo hynny'n briodol, a sicrhau eu bod yn parhau wedi'u symbylu ac yn eglur ynghylch nodau ac amcanion datblygu unigolion

  8. symbylu unigolion i oresgyn rhwystrau i gynnydd a chyflawniad

  9. sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am rannu gwybodaeth er mwyn helpu dilyniant unigolion gyda gofynion diogelu a chyfrinachedd

  10. cofnodi gwybodaeth berthnasol ynghylch cefnogaeth a datblygiad yn unol â gofynion y sefydliad

  11. gwerthuso effaith cefnogaeth a chynllunio gwelliannau yn ôl y galw

  12. gweithredu mewn ffyrdd sy'n glynu at yr ymarfer moesegol sy'n ofynnol o fewn eich sefydliad neu eich proffesiwn

  13. herio unrhyw ragfarn, defnydd o stereoteipiau, camwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol neu ormesol

  14. annog ymreolaeth unigolion oddi mewn i'r broses datblygu gyrfa

  15. hyrwyddo cynhwysedd, amrywiaeth a chyfle cyfartal

  16. cynnal cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth unigol sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r polisïau sefydliadol perthnasol

  17. arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol, gweithdrefnau lleol a'ch atebolrwydd eich hun o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

  2. sut mae canfod anghenion cefnogaeth unigolion a chadw cydbwysedd rhyngddynt a chyfyngiadau a therfynau'r gwasanaeth

  3. cylch gorchwyl, terfynau a ffiniau eich rôl a'ch sefydliad o ran darparu cefnogaeth barhaus

  4. pa wasanaethau arbenigol sydd ar gael i gefnogi unigolion a'r prosesau y mae'n rhaid eu dilyn i gyfeirio unigolion atynt lle bo hynny'n briodol

  5. y partïon â diddordeb a all gefnogi unigolion, y rôl benodol y gall pob un ohonynt ei chyflawni, a manteision ymwneud â hwy

  6. sut mae annog unigolion a phartïon eraill â diddordeb a sicrhau cytundeb rhyngddynt ynghylch natur, dull ac amlder y gefnogaeth y byddant yn ei rhoi i unigolion

  7. sut mae ymateb i farn yr holl bartïon dan sylw heb golli ffocws ar anghenion, nodau ac amcanion datblygu unigolion

  8. yr ymyriadau a'r dulliau i helpu partïon â diddordeb i wella'u cefnogaeth i unigolion lle bo hynny'n briodol

  9. y rhwystrau y gall partïon â diddordeb eu hwynebu wrth gefnogi unigolion, a ffyrdd o'u goresgyn

  10. y rhwystrau i ddatblygiad a chyflogaeth, sut mae eu hadnabod, a strategaethau i'w goresgyn

  11. sut mae rheoli ffiniau'r berthynas ac annog unigolion i fod yn annibynnol

  12. yr ystod o dechnegau cyfathrebu a sut gellir eu defnyddio yn ystod cefnogaeth barhaus

  13. dulliau o fesur yn effeithiol ganlyniadau cyflawniad unigolion o'i gymharu â'u nodau a'u hamcanion datblygu

  14. egwyddorion moesegol a chodau ymarfer moesegol proffesiynol perthnasol, a chanlyniadau peidio â chadw atynt

  15. sut mae annog unigolion i gymryd perchnogaeth ar y broses datblygu gyrfa

  16. ffiniau a therfynau eich arbenigedd proffesiynol eich hun

  17. ffiniau cyfrinachedd, pryd mae'n briodol datgelu gwybodaeth gyfrinachol i eraill a'r prosesau sy'n ofynnol

  18. mesurau i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed

* *


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CDI

URN gwreiddiol

CDICRD08

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Galwedigaethau Proffesiynol, Rheolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb am rhyngasiantaethol, gweithwyr llinell gymorth, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Hyfforddwr Tywys Gweithredol, Rheolwyr Swyddogaethol, Staff Adnoddau Dynol, Mentor Dysgu, Rheolwyr personel, Hyffordiant a chysylltiadau diwydiannol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Addysgwyr Proffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor, dyhead, gyrfa, client-ganolog, datblygiad, addysg, cyflogaeth, cydraddoldeb, moesegol, nodau, grŵp, unigolyn, gwybodaeth, marchnad lafur, dysgu, symbyliad, anghenion, rhwydweithio, amcan, partneriaeth, cynllunio, ymarfer, atgyfeirio, myfyrio