Addasu deunydd sain yn defnyddio samplwyr a syntheseisyddion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag addasu deunydd sain gan ddefnyddio caledwedd neu feddalwedd samplo a syntheseisydd analog neu ddigidol. Caiff samplwyr eu defnyddio i gychwyn cerddoriaeth. Caiff syntheseisyddion eu defnyddio'n gyffredinol i un ai ailgynhyrchu a golygu sŵn offerynnau traddodiadol neu greu synnau neu effeithiau electronig amrywiol.
Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis ac addasu syntheseisyddion, cychwyn samplau, cyfuno deunydd wedi'i syntheseiddio a'i samplo, monitro ansawdd yn erbyn y cyfarwyddyd a chadw gwaith.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio a rhaglenwyr sy'n defnyddio samplwyr a syntheseisyddion i addasu deunydd sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adalw deunyddiau sydd wedi'u cadw a'u harchifo pan fo'u hangen i gwblhau'r gwaith
- defnyddio mathau priodol o synthesis ar gyfer nodweddion sain gofynnol
- addasu paramedrau syntheseisyddion i fodloni gofynion
- defnyddio samplwyr a syntheseisyddion yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- cyfuno deunyddiau wedi'u syntheseiddio a'u samplo i fodloni gofynion
- cychwyn samplau ar adegau priodol
monitro ansawdd sain wedi'i syntheseiddio yn erbyn y. gofynion
- addasu paramedrau rhaglennu a samplo samplwyr a syntheseisyddion i fodloni'r gofynion creadigol
- creu, cadw a llwytho systemau a rhaglenni samplo a syntheseiddio i fodloni'r gofynion
- cadw ac archifo holl ddeunydd sydd wedi'i greu yn unol â phrosesau cyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaethau rhwng dilynianwyr sain a MIDI (Musical Instrument Digital Interface)
- gofynion ar gyfer gosod (MIDI) mewn dilynianwyr
- sut caiff systemau eu rhoi ar waith i integreiddio dilynianwyr, samplwyr a syntheseisyddion
- gweithrediad a pharamedrau synthesis adiol, tynnol, FM, AM, gronynnog a thonadwy
- y gwahanol ffyrdd o gychwyn samplau gan gynnwys defnyddio allweddellau a thrwy sgrîn pecyn dilyniannu
- sut i ddefnyddio pecynnau dilyniannu meddalwedd i gyfuno rhannau gwreiddiol, wedi'u syntheseiddio ac wedi'u samplo
- egwyddorion sylfaenol a nodweddion sain mathau cyffredin o synthesis
- y gwahaniaethau mewn sain, gwahanol ddefnyddiau, cyd-destunau a dulliau ar gyfer gwahanol fathau o synthesis
- gweithrediadau synthesis cyffredin a'u cyfyngiadau